Peter McFarren, milwr o Gei Conna a fu farw yn Irac, Llun: Llywodraeth Prydain
Mae tad un o’r milwyr a fu farw yn rhyfel Irac wedi dweud wrth golwg360 ei fod am weld Tony Blair yn cael ei ddwyn i gyfrif am fynd â’r wlad i ryfel.

Bu farw mab Robert McFarren, Peter, yn 24 oed, mewn ymosodiad yn ninas Basra yn 2007 ac mae ei dad yn mynnu nad oedd cyfiawnhad i’w anfon yno.

Dywedodd fod e a’i wraig, Ann, y ddau yn byw yng Nghei Conna, yn trafod gyda’u cyfreithiwr ar hyn o bryd i benderfynu a fyddan nhw’n dwyn achos cyfreithiol yn erbyn y cyn-Brif Weinidog.

“Rydym yn trafod hynny ar hyn o bryd, p’un ai fydd yn digwydd ai peidio, dw i ddim yn gwybod, gall camau gael eu cymryd ar rannau penodol,” meddai.

“Mae’n bosibilrwydd yn sicr, hoffwn i weld hynny’n digwydd. Ond nid  fe yw’r unig un, roedd ganddo lawer o gefnogwyr.

“Dydy gwleidyddion byth i weld yn dysgu unrhyw wersi o ryfeloedd y gorffennol. Ry’n ni’n ailadrodd yr un hen beth eto ac eto.”

‘Dim busnes’ gan Brydain

Ar ôl darllen adroddiad Chilcot, a gafodd ei gyhoeddi ddoe, dywedodd Robert McFarren ei fod yn sicr na ddylai’r Deyrnas Unedig fod wedi ymuno â’r rhyfel.

“Cafodd e (y rhyfel) ddim ei ganiatáu gan y Cenhedloedd Unedig. I gael rhyfel o’r maint yna, ar lwyfan y byd, mae’n rhaid i wlad gael mandad gan y Cenhedloedd Unedig i barhau.

“Dylai’r wlad hon ddim fod yn y busnes o ddisodli arweinwyr gwledydd, hyd yn oed oes ydyn nhw’n unbeniaid, mae gormod ohonyn nhw ta beth.

“Roedd e (Tony Blair) yn hollol ddi-glem ac yn anghywir, dyna i gyd oedd e’n ei wneud oedd dilyn ei arwr yn America, sef Bush.”

Roedd yr adroddiad hirddisgwyliedig yn ystyried y broses a arweiniodd at benderfyniad y llywodraeth ar y pryd i fynd i ryfel, a hynny er mwyn disodli’r unben, Saddam Hussein, yn ôl Tony Blair.

Ond daeth adroddiad Chilcot i nifer o gasgliadau anghyfforddus, gan ddweud nad oedd seiliau cyfreithiol dros fynd i ryfel ac nad oedd opsiynau eraill, mwy heddychlon, wedi cael eu hystyried yn ddigonol.

Esgidiau milwyr yn toddi yn y gwres

Fe gododd gwestiynau hefyd ynghylch y diffyg offer addas ar gyfer y milwyr, gydag adroddiadau bod milwyr Prydain wedi gorfod prynu esgidiau eu hunain gan fod rhai’r fyddin yn toddi yng ngwres Irac.

“Mae darllen am y diffyg offer yn fy ngwneud i’n grac. Ro’n i’n gwybod nad oedd ganddyn nhw ddigon o offer ta beth achos roedd Peter wedi gorfod prynu ei esgidiau ei hun,” meddai Robert McFarren.

“Roedd yr esgidiau wedi cael eu dylunio ar gyfer (eu gwisgo yn) Ewrop, roedd y gwadn rwber yn toddi yn y math yna o wres, doedden nhw ddim yn addas ar gyfer rhyfela yn yr anialwch.”

“Rwy’n ei gofio bob dydd”

Roedd Robert McFarren yn gobeithio y byddai cyhoeddi adroddiad Chilcot, ar ôl saith mlynedd o aros, yn cynnig rhyw fath o gysur iddo, ond doedd e ddim yn meddwl bod hynny wedi digwydd.

“Rwy’n ei gofio bob dydd. Mae ‘na ffotograffau ohono o’m ‘mlaen i nawr ar y wal ac yn fan ‘no byddan nhw’n aros.”

Disgrifiodd y boen a’r iselder y bu’n teimlo dros y blynyddoedd ar ôl colli ei fab.

“Wnes i ddim alaru yn syth, roedd hyd yn oed y doctor yn dweud wrtha’ i, ‘mae’n iawn i grio, ti’n gwybod’,” meddai.

“Roeddwn i mewn syfrdan am amser hir, doeddwn i ddim yn gwybod beth oedd wedi digwydd. Doeddwn i methu credu’r ffaith na fyddai Peter yn cerdded i mewn drwy’r drws eto.

“Roeddwn i’n gwybod ei fod wedi cael ei ladd ond roeddwn i’n dal i aros iddo ddod i mewn drwy’r drws.”

Teulu’n “gryf gyda’i gilydd”

Ychwanegodd: “Mae fy ngwraig i weld yn gryfach yn feddyliol, ond eto i gyd, mae hi dal yn gweithio, a doeddwn i ddim. Roeddwn i’n meddwl mynd yn ôl i’r gwaith eto ond allwn i ddim.

“Rydym ni llawer yn agosach nawr, fy ngwraig a’m merch, nag oeddem ni erioed. Roedden ni o hyd yn agos ond nawr rydym yn gryf iawn gyda’n gilydd.”

Cyfweliad: Mared Ifan