Gwenno Saunders, enillydd Gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn yn 2015 (Llun: Eisteddfod Genedlaethol Cymru)
Mae rhestr fer Gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn, a fydd yn cael ei chyflwyno yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, wedi cael ei chyhoeddi.

Y bwriad yw dathlu pob math o gerddoriaeth Gymraeg, ac mae’r rhestr eleni yn gymysgedd “eclectig ac amrywiol”, yn ôl y trefnwyr.

Beirniaid o’r diwydiant cerddoriaeth oedd yn dewis eu hoff gynnyrch gan edrych ar albymau oedd wedi’u cyhoeddi rhwng 1 Mawrth 2015 a diwedd mis Ebrill 2016.

Y beirniaid fydd yn dewis yr enillydd yn y Brifwyl yn y Fenni eleni hefyd.

 

Y deg albwm sydd ar y rhestr yw:

9 Bach – Anian

Alun Gaffey

Band Pres Llareggub – Mwng

Brython Shag

Calan – Dinas

Cowbois Rhos Botwnnog – IV

Datblygu – Porwr Trallod

Plu – Tir a Golau

Swnami

Yucatan – Uwch Gopa’r Mynydd

‘Amrywiaeth’

“Mae’n braf iawn gweld cymaint o amrywiaeth ar restr fer Gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn unwaith eto eleni,” meddai un o’r trefnwyr, Guto Brychan.

“Dyma’r trydydd tro i ni gyflwyno Albwm Cymraeg y Flwyddyn, ac mae’n bwysig bod yr Eisteddfod yn rhoi sylw haeddiannol i gerddoriaeth sydd wedi’i recordio neu’i greu’n ddiweddar.

“Mae’n braf gweld nifer o artistiaid gwahanol ar y rhestr fer eleni, ac rwy’n sicr y cawn enillydd haeddiannol unwaith eto eleni.”

Enillydd llynedd

Llynedd, daeth Gwenno Saunders i’r brig, gyda’i halbwm, ‘Y Dydd Olaf’. Ers hynny, mae wedi ennill Gwobr y Welsh Music Prize a’r albwm wedi cael adolygiadau da yng Nghymru a thu hwnt.

Bydd enw’r enillydd yn cael ei gyhoeddi yng Nghaffi Maes B ar faes yr Eisteddfod, dydd Gwener 5 Awst am 2 y prynhawn.

Mae tlws wedi cael ei chomisiynu’n arbennig ar gyfer y digwyddiad gan y dylunydd, Ann Catrin Evans.