Carwyn Jones
Bydd Prif Weinidog Cymru’n yn cofio’r miloedd o Gymry a fu farw ym mrwydr y Somme yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf heddiw mewn gwasanaeth coffa ar faes y gad ym Mrwydr Coedwig Mametz.

Can mlynedd yn ôl, cafodd 4,000 o filwyr Cymreig eu lladd yn y frwydr ac fe fydd Carwyn Jones yn eu hanrhydeddu heddiw am “ymladd dros ein dyfodol.”

Bydd y Gwasanaeth Coffa Cenedlaethol yn cael ei arwain gan archesgob Cymru, Y Parchedicaf Dr Barry Morgan, ac mae disgwyl 1,000 o bobol yn y gwasanaeth ym mhentref Mametz yng ngogledd Ffrainc.

Aelodau’r 38ain Adran Gymreig oedd yn cynnwys milwyr y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, Cyffinwyr De Cymru a’r Gatrawd Gymreig oedd y rhai a gollodd eu bywydau yn ystod y frwydr ffyrnig.

Aelodau eraill y Cynulliad

Bydd Llywydd y Cynulliad, Elin Jones ac arweinwyr y pleidiau eraill, Leanne Wood o Blaid Cymru, Andrew RT Davies o’r Ceidwadwyr a Neil Hamilton o UKIP, yn ymuno â’r Prif Weinidog hefyd.

Mae disgwyl iddyn nhw osod torch ar gofeb Coedwig Mametz, sy’n siâp draig 9 troedfedd o uchder, a gafodd ei chodi yn 1987.

Nod y milwyr yn ystod y frwydr oedd cipio’r goedwig o fyddin yr Almaen, a llwyddodd y Cymry wneud hynny erbyn y pumed diwrnod.

“Cofio aberth y Cymry”

“Mae coffâd heddiw yn rhoi cyfle i ni gyd adlewyrchu ar aberth milwyr y 38ain Adran Gymreig a fu’n ymladd yma, a phawb arall fel nhw a fu’n ymladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf,” meddai Carwyn Jones.

“Rwy’n falch i ddod i’r gwasanaeth heddiw er mwyn talu teyrnged i’r Fyddin Gymreig ddewr hon a oedd yn cynnwys dynion o Gymru gyfan. Mae angen i ni ddiolch iddyn nhw i gyd am ymladd dros ein dyfodol.”

Bydd y bataliwn 1af a’r 3ydd yno hefyd, ynghyd â’r Cymry Brenhinol a Chôr Meibion Treorci.

Dywedodd Elin Jones, Llywydd y Cynulliad, y byddai sefyll yn y gwasanaeth coffa yn “eu hatgoffa o erchylltra rhyfel.”

“Ni allwn fyth anghofio’r aberth hwn nac ychwaith ei ailadrodd,” meddai.