Y llifogydd yn Nhal-y-Bont ym mis Ionawr Llun: Y Cynghorydd Dafydd Meurig
Bydd Ysgrifennydd yr Amgylchedd, Lesley Griffiths yn ymweld â chymuned Tal-y-bont yng Ngwynedd ddydd Iau i gyhoeddi pecyn gwerth £4 miliwn i helpu cymunedau sy’n dioddef o effeithiau llifogydd.

Mae’r nawdd fel rhan o grant Llywodraeth Cymru’n cynnwys £1 miliwn i ddiogelu’r pentref a’r A55 gerllaw.

Bydd awdurdodau lleol yn derbyn yr arian i gefnogi cynlluniau ar raddfa fach i reoli risg a llifogydd, ac i drwsio’r seilwaith rheoli risg llifogydd a gafodd ei ddifrodi yn dilyn  llifogydd yn Rhagfyr 2015.

O ganlyniad i’r cyllid, bydd Cyngor Gwynedd yn derbyn £985,000 i wneud gwaith yn Nhal-y-bont, sy’n cynnwys creu system draenio gorlifiant, byndiau pridd, ffosydd a sianeli i symud dŵr llifogydd i mewn i afon Ogwen.

Mae disgwyl i’r gwaith yn yr ardal ddod i ben yn yr hydref.

Ar drothwy’r ymweliad, dywedodd Lesley Griffiths: “Mae llifogydd yn fater pwysig iawn i Gymru ac yn fater sy’n cael ei gymryd o ddifrif calon gennym. Y llynedd roedd lefel y glaw a ddisgynnodd yn y Gogledd yn fwy nag erioed o’r blaen.

Ar ben hynny, mae ein hinsawdd yn newid ac mae’n debygol iawn y gwelwn ddigwyddiadau tebyg, sy’n gysylltiedig â’r tywydd, yn amlach. Mae’n hanfodol bwysig ein bod yn gallu ymdopi â’r newid hwn a dyna pam ein bod wedi ymrwymo i fuddsoddi mewn rheoli risg llifogydd ledled Cymru.

“Rydw i’n falch ein bod wedi gallu cefnogi cymuned Tal-y-bont wedi iddynt ddioddef yr effeithiau niweidiol a ddaeth yn sgil stormydd y gaeaf. Drwy gymryd camau’n gyflym i sicrhau bod y gwaith yn cael ei gyflawni, bydd modd diogelu’r gymuned a’r A55 yn well cyn i’r gaeaf ein cyrraedd eleni.”

Bydd y £3 miliwn arall yn mynd at gynlluniau cynnal a chadw ar raddfa fach, gan gynnwys trwsio ac uwchraddio ffosydd, waliau cynnal, cyrsiau dŵr a chynlluniau draenio.

Bydd Blaenau Gwent, Caerffili, Conwy, Sir y Fflint, Gwynedd, Sir Fôn, Sir Fynwy, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro, Powys, Rhondda Cynon Taf, Abertawe a Wrecsam yn cael cyfran o’r cyllid.