Elfyn Llwyd
Mae cyn-AS Dwyfor Meirionnydd wedi cyhuddo Tony Blair o “ddweud celwydd” am y dystiolaeth oedd ganddo cyn mynd i ryfel Irac, a’i gyhuddo o “gamarwain difrifol”.

Yn ôl Elfyn Llwyd, roedd cyn-Brif Weinidog Prydain am “sefyll ysgwydd yn ysgwydd” â George Bush, Arlywydd America ar y pryd, o’r dechrau, er ei fod yn dweud wrth Dŷ’r Cyffredin “nad oedd penderfyniad” ar y mater wedi’i wneud.

Cafodd adroddiad hir-ddisgwyliedig Chilcot ei gyhoeddi heddiw, oedd yn amlygu nifer o fethiannau ynghylch y broses o benderfynu mynd â’r Deyrnas Unedig i ryfel yn Irac.

Yn y ddogfen 2.6 miliwn o eiriau, mae Syr John Chilcot yn dweud bod y penderfyniad i fynd i ryfel wedi cael ei wneud cyn bod y llywodraeth ar y pryd wedi ymchwilio i’r holl opsiynau oedd ar gael iddyn nhw.

Penderfynu mynd i ryfel ‘doed a ddelo’

Aeth Elfyn Llwyd gam ymhellach, gan ddweud wrth Golwg360 bod Blair a Bush wedi penderfynu mynd  i ryfel “doed a ddelo.”

“Mae ‘na gamarwain difrifol wedi digwydd o’r dechrau i’r diwedd yn y mater,” meddai.

“Rhan o’r peth yw bod Tony Blair wedi cael ei ddallu gan George Bush a’i fod wedi cytuno’n gynnar iawn y bydda’ fo’n mynd i ryfel efo Bush ac wedyn ffeindio’i hun bod o ddim yn gallu tynnu’n ôl.

“Mae’n ddigon hawdd i Blair ymddiheuro am ansawdd y gudd-wybodaeth a gafodd gan y bobol oedd yn ei gynghori fo, ond y gwir ydy, oedd o’n gwbl amlwg i bob un ohonom, pan welson ni’r dodgy dossier ‘na, mai nonsens oedd yr achos i gyd.

“Doedd ‘na ddim bygythiad tri chwarter awr o WMDs (arfau distryw mawr), a hefyd, chafodd y Cenhedloedd Unedig ddim yr amser priodol i sicrhau bod nhw’n gorffen y gwaith o edrych am yr WMDs.”

Er bod Elfyn Llwyd yn dweud nad yw’n heddychwr, ac y byddai’n barod i fynd i ryfel pe bai angen, mae’n dweud na chafodd ei berswadio o’r angen i fynd i ryfel gydag Irac “am eiliad.”

Roedd y cyfreithiwr a’r cyn-wleidydd wedi bod yn gweithio gyda Reg Keys, tad Thomas Keys, o Lanuwchllyn a fu farw yn y rhyfel yn 20 oed, i geisio cael cyfiawnder i’r teulu.

Dywedodd sut oedd y teulu wedi “chwalu a chwerwi” ers y rhyfel, wrth iddyn nhw ymchwilio i’w farwolaeth a chanfod mai dim ond 50 bwled oedd gan y milwr ifanc a bod ‘na ddim radio i gysylltu ag unrhyw un am gymorth.

“Roedd eu sefyllfa nhw yn anobeithiol, oherwydd diffyg offer cywir.”

“Dylid” dwyn achos yn erbyn Blair

Roedd e’n meddwl hefyd y gallai fod yn bosib dwyn achos cyfreithiol yn erbyn Tony Blair a hynny drwy’r Llys Troseddol Rhyngwladol neu ei ddwyn i gyfrif am ‘gamymddwyn bwriadol mewn swydd gyhoeddus’.

“Mae’r pethau yma’n bethau y dylid eu hystyried,” ychwanegodd Elfyn Llwyd.

“Dim penderfyniad bach, diniwed oedd hwn – 179 o filwyr wedi’u lladd a rhwng 150,000 a 600,000 o bobol ddiniwed Irac a milwyr yn cael eu lladd.

“Ac wrth gwrs, mae llawer un yn credu, fel fi, bod hedyn ISIS neu Daesh wedi cael ei blannu’n fan ‘na.”

‘Briw’ ar groen IS

Dywedodd Elfyn Llwyd  ei fod yn cofio’r tro y buodd yn Irac, pan oedd y rhyfela bron ar ben a dod ar draws rhywun lleol oedd yn cydnabod nad oedd Saddam Hussein yn ‘ddyn da’ ond nad oedd pethau cynddrwg dan ei unbennaeth e.

“Drychwch o’ch cwmpas,” meddai wrth Elfyn Llwyd, “carthffosiaeth yn rhedeg i lawr y stryd, a does gynnon ni ddim dŵr glân rŵan, rydan ni’n gorfod cael dŵr potel ac rydan ni’n cael trydan am ryw ddwy awr y dydd, nid hyn fel oedd hi hyd yn oed yn nyddiau Saddam.

“Mae’r wlad yma rŵan mewn llawer gwaeth cyflwr na chynt, a dwi’n mentro dweud, meddai’r person yma, fydd hi ddim yn cael ei thrwsio ar frys chwaith, a chafodd hi ddim.

“Mae hwnna wedi bod ar friw croen Daesh, ISIS ‘ma, a dyna’r enghraifft maen nhw’n ei ddefnyddio er mwyn radicaleiddio pobol dw i’n siŵr.”

Gwersi i’w dysgu

Ychwanegodd fod llawer i’w dysgu o ryfel Irac, bod “angen dilyn prosesau’r Cenhedloedd Unedig… sicrhau bod pobol o bob rhan o’r cyfandir rydach chi’n llygadu yn dod yn flaenllaw yn y trafodaethau a bod rheini’n cael bod yn rhan annatod o unrhyw gyfle i ddatrys heb ryfela.”

“Mae trafodaeth yn llawer gwell ‘na ymosodiad ar ddiwedd y dydd, roedd hyd yn oed Winston Churchill yn cydnabod hynny, “jaw-jaw is always better than to war-war”.

“Yn olaf, os oes gynnoch chi achos cyfiawn, os oes ‘na achos cyfreithlon o flaen y Cenhedloedd Unedig, peidiwch hyd yn oed wedyn â symud nes eich bod wedi paratoi at yr heddwch a’r ail-adeiladu.”

Cyfweliad: Mared Ifan