Baton Ras yr Iaith (Llun: Ras yr Iaith)
Mae Ras yr Iaith 2016 yn cychwyn yn swyddogol heddiw, a dyma’r drydedd flwyddyn i’r ras gael ei chynnal.

Mae disgwyl i gannoedd ymuno â’r ras rhwng heddiw a dydd Gwener wrth iddi ymweld â 25 o bentrefi o bob cwr o Gymru er mwyn trosglwyddo “baton yr iaith.”

Yn ôl llefarydd ar ran Mentrau Iaith Cymru, “nid ras athletaidd yw’r ras hon ond ras dros y Gymraeg gan bobl Cymru.

“Mae’r ras yn ddathliad o’r Gymraeg a Chymreictod ac yn ffordd wych o godi ymwybyddiaeth a dangos i’r byd gymaint y gefnogaeth sydd gan yr iaith ledled Cymru – yn siaradwyr Cymraeg rhugl, yn ddysgwyr neu’n bobl sy’n cefnogi’r iaith,” meddai.

‘Syniad gwych’

Un sy’ edrych ymlaen at yr her yw cyflwynydd Heno, Angharad Mair, sydd wedi gwneud enw iddi’i hun yn ddiweddar ar ôl torri record Brydeinig Marathon Llundain fel y ferch gyflymaf erioed dros 55 oed.

“Mae unrhyw ddigwyddiad sy’n hybu pwysigrwydd yr iaith Gymraeg yn beth da,” meddai Angharad Mair.

“Mae Ras yr Iaith yn syniad gwych gan ei fod yn cwmpasu cymaint o agweddau positif: yr iaith, prydferthwch ein gwlad, cymunedau, dod a phobl at ei gilydd, a chadw’n heini.”

Bydd y ras yn para tridiau eleni am y tro cyntaf.