Elin Jones, Llywydd y Cynulliad (Llun: Cynulliad Cymru)
Mae Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cynnig cyfres o welliannau i Fesur Cymru heddiw.

Dywedodd Elin Jones ei bod hi’n “bwysicach nag erioed” i sicrhau Mesur sy’n addas i Gymru yn dilyn canlyniad y refferendwm i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae ei gwelliannau i’r Mesur yn cynnwys cael gwared â’r prawf rheidrwydd i faterion a gadwyd yn ôl, a sicrhau bod cyfyngiad y Cynulliad i ddeddfu ar gyfreithiau trosedd yn unol â’r cyfyngiad ar gyfraith breifat.

‘Ail set o welliannau’

“Bwriad y gwelliannau yw darparu setliad i’r Cynulliad sy’n glir, yn ymarferol heb iddo gymryd cam yn ôl o ran pwerau’r Cynulliad,” meddai Elin Jones.

Mae hi eisoes wedi cyhoeddi un set o welliannau i’r Mesur cyn y ddadl gyntaf yn San Steffan, ac mae’r ail set heddiw yn cael eu cyflwyno cyn eu hail ddadl ar 11 Gorffennaf.

Yn ystod yr ail ddadl fe fydd Aelodau Seneddol yn edrych ar fodel arfaethedig o’r Mesur o ran cadw pwerau yn ôl a phenderfynu ar gymhwysedd y Cynulliad.

“Fy mhryder mwyaf o ran y model arfaethedig ar gyfer cymhwysedd yw’r gwaharddiad llwyr y mae’r Bil yn ei roi ar y Cynulliad i ddeddfu mewn unrhyw fodd sy’n ymwneud â mater a gadwyd yn ôl – bydd hyn yn arwain at golli rhywfaint o ryddid o gymharu â’r setliad presennol,” meddai.

Fe fydd hefyd yn cyflwyno’r gwelliannau hyn yn ystod y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y Cynulliad heddiw.