Bydd ffigurau blaenllaw’r diwydiant amaethyddol yng Nghymru yn cyfarfod â Phrif Weinidog Cymru a’r Ysgrifennydd Materion Gwledig heddiw i drafod goblygiadau Brexit ar y sector.

Mae disgwyl y bydd arweinwyr undebau a pherchnogion busnesau amaethyddol yn cyfarfod â Carwyn Jones a Lesley Griffiths i leisio pryderon dros gymorthdaliadau ac effaith gadael yr Undeb Ewropeaidd ar fasnach cefn gwlad.

Mae ffermwyr yn chwilio am atebion am ba mor hawdd fydd hi i werthu ym marchnadoedd yr UE a faint o gefnogaeth ariannol a ddaw iddyn nhw ar ôl i wledydd Prydain adael.

Ynghynt roedd yr Aelod Cynulliad Llafur, Eluned Morgan, sy’n gyn-aelod o Senedd Ewrop, wedi rhybuddio ffermwyr y byddai’n rhaid iddyn nhw bellach gystadlu am arian yn erbyn y Gwasanaeth Iechyd.

Ond yn ôl ochr Vote Leave y refferendwm, byddai cymorthdaliadau i ffermwyr o’r Undeb Ewropeaidd yn cael eu digolledu gan Lywodraeth y DU a Chymru, yn dilyn pleidlais i adael.