Owen Smith (o'i wefan)
Mae un o brif benaethiaid undeb gwledydd Prydain wedi apelio ar i’r Aelod Seneddol Cymreig, Owen Smith, beidio â sefyll yn erbyn arweinydd y Blaid Lafur.

Yn ôl Len McCluskey, Ysgrifennydd Cyffredinol undeb Unite, fe ddylai aelod Pontypridd feddwl eto cyn herio Jeremy Corbyn.

Ar Radio Five Live, fe alwodd yr undebwr ar i Owen Smith a’r ymgeisydd posib arall, Angela Eagle, gamu’n ôl o sefyll yn erbyn yr arweinydd.

Fe ddywedodd eu bod yn “bobol synhwyrol”, gan ofyn am gyfle i’r undebau Llafur geisio cymodi rhwng Jeremy Corbyn a mwyafrif yr aelodau seneddol, sydd wedi gwrthryfela yn ei erbyn.

‘Mwy asgell chwith’

Hyd yn hyn, dyw Owen Smith, y cyn lefarydd ar Waith a Phensiynau, ddim wedi dweud y bydd yn sefyll ond mae’n un o ddau enw amlwg sy’n cael eu crybwyll.

Roedd yn un o’r brif don o lefarwyr mainc flaen a wrthryfelodd yn erbyn Jeremy Corbyn ac, yn ôl rhai, fe fyddai ganddo well gobaith na Angela Eagle o ddenu cefnogaeth asgell chwith y blaid.

Mae rhai ffynonellau’n awgrymu y gallai’r ddau heriwr gyfarfod yr wythnos nesa’ a dod i gytundeb.

Rhesymau tros oedi

Ac mae yna ddwy ddamcaniaeth pam eu bod nhw’n oedi:

I aros tan ar ôl cyhoeddi Adroddiad Chilcot i Ryfel Irac, gyda disgwyl y bydd Jeremy Corbyn yn ymosod yn ffyrnig ar y cyn Brif Weinidog Tony Blair ac, efallai, yn galw am gamau cyfreithiol yn ei erbyn.

Y gobaith y gallai Jeremy Corbyn gael ei orfodi i ymddiswyddo – pe bai hynny’n digwydd, mae’n bosib na allai gael digon o enwebiadau seneddol i ailgynnig am yr arweinyddiaeth; pe bai’n cael ei herio yn ei swydd, fe fyddai ganddo hawl otomatig i ailsefyll.