Senedd?
Mae Cymdeithas yr Iaith yn galw am ddefnyddio’r gair ‘Senedd’ wrth gyfeirio at y Cynulliad yng Nghymru.

Fe fydd pleidlais ynghylch ail-enwi’r sefydliad ym Mae Caerdydd ddydd Mawrth.

Yr enw sydd dan ystyriaeth ar hyn o bryd yw ‘Parliament’, ond mae’r Gymdeithas yn galw am enw uniaith Gymraeg.

Yn ôl y Gymdeithas, mae’r gair ‘Senedd’ yn ddealladwy i bawb yng Nghymru, boed yn Gymry Gymraeg neu ddi-Gymraeg.

Dywedodd cadeirydd grŵp hawl Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Manon Elin: “Mae’r gair Senedd yn un mae’r cyhoedd yn gyffredinol yn ei ddeall a’i gefnogi.

“Mae’r enw eisoes yn cael ei ddefnyddio’n eang ymysg siaradwyr Cymraeg a’r di-Gymraeg.

“Byddai’n gam ymlaen o ran normaleiddio’r Gymraeg hefyd.

“Wrth reswm, mae perygl mewn defnydd tocenistaidd o’r Gymraeg yn unig; dylai hyn fod yn rhan o becyn o normaleiddio’r Gymraeg fel prif iaith y Senedd a’r wlad yn gyffredinol.”

Ychwanegodd y byddai’r Gymdeithas yn cyfarfod â Llywydd y Cynulliad, Elin Jones yn fuan i drafod y mater, a’u bod yn “edrych ymlaen at wella defnydd o’r Gymraeg yn ein corff democrataidd cenedlaethol”.