Gwnaeth 1.27 miliwn o bobol wylio Cymru’n curo Gwlad Belg o 3-1 yn Ewro 2016 nos Wener, wrth iddyn nhw sicrhau eu lle yn y rownd gyn-derfynol.

Dyma’r gynulleidfa fwyaf erioed yng Nghymru ar gyfer gêm fyw, yn ôl y BBC.

Dim ond y ddwy seremoni ar ddechrau a diwedd Gemau Olympaidd Llundain yn 2012 sydd wedi denu mwy o wylwyr ers dechrau’r ganrif.

Hon oedd y gynulleidfa fwyaf ar gyfer un o gemau pêl-droed Cymru ers ail gymal y gêm ail-gyfle yn erbyn Rwsia ym mis Tachwedd 2003.