Alun Ffred Jones, Cadeirydd Plaid Cymru
Yn dilyn cyfarfod o Bwyllgor Gwaith Plaid Cymru yn Rhaeadr heddiw, mae Cadeirydd y blaid wedi addo y byddan nhw’n gwneud “popeth o fewn eu gallu” i sicrhau na fydd Cymru’n cael cam ar ôl i Brydain dynnu allan o Ewrop.  

Yn ôl Alun Ffred Jones, cyn-Aelod Cynulliad Arfon, fe fydd Plaid Cymru yn dal y rheiny a ymgyrchodd tros adael yr Undeb Ewropeaidd i gyfri’ tros yr addewidion a wnaed i bobol Cymru yn yr wythnosau cyn y refferendwm ar Fehefin 23.

“Yn ein trafodaethau heddiw,” meddai, “roedd pawb yn gytûn fod yr ymgyrch tros adael wedi gwneud addewidion i nifer o gymuedau Cymru. Addewidion ynglyn â sut y bydd arian gan Lywodraeth Prydain yn dod i gymryd lle bob ceiniog ddaw o gronfeydd Ewrop. Addewidion y byddai arian ychwanegol yn dod i Gymru, i’w wario’n benodol ar y Gwasanaeth Iechyd.

“Mae’n ymddangos y bydd yr addewidion hyn – addewidion y rhoddodd cymaint o bobol Cymru eu ffydd ynddyn nhw – yn cael eu torri.”

Pa addewidion? 

* Fe addawodd arweinydd y blaid Geidwadol yn y Senedd yng Nghaerdydd y byddai £490m y flwyddyn yn dod i Gymru er mwyn ariannu’r GIG… cyn mynd yn ôl ar ei air ddiwrnod wedi’r refferendwm.

* Yn ôl gwaith ymchwil gan yr economegydd Eurfyl ap Gwilym yn dangos fod £656m yn dod yn uniongyrchol o Ewrop i Gymru yn 2014; ac y byddai methu â gwneud yn iawn am y swm hwnnw yn gwneud difrod ac yn brifo cymunedau ledled Cymru.

“Fe fydd Plaid Cymru yn ymladd i hoelio’r ymgyrch ‘Leave’ a’u gorfodi i gadw eu haddewid i bobol Cymru,” meddai Alun Ffred Jones.