Cannoedd yn galw am Gymru Rydd yn Ewrop

 


Fe ddaeth ymhell dros 300 o bobol o bob cwr o ogledd Cymru i rali ar Faes Caernarfon heddiw i ddangos eu gwrthwynebiad i ganlyniad y refferendwm ar ddyfodol gwledydd Prydain o fewn yr Undeb Ewropeaidd.

Ac, wrth i Dafydd Wigley, Meic Birtwistle, Ifor ap Glyn a Bryn Fôn annerch y dorf oedd wedi ymgynnull ar y Ffownten ger y gofadail, y brif alwad oedd honno am Gymru annibynnol o fewn Prydain ffederal.

“Mae Caerdydd, Gwynedd, Ceredigion, Gogledd Iwerddon, ynghyd â dinasoedd Lerpwl, Manceinion a Llundain wedi pleidleisio tros aros,” meddai Meic Birtwistle, “felly mae yna lawer o bobol yn credu fel ni. Mae yna lot o waith i’w wneud, ac mae’r ymgyrch yn parhau…”

Roedd nifer o bobol yn y dorf wedi dod mewn dillad coch, a nifer hefyd yn gwisgo baneri Cymru ac Ewrop fel clogynnau tros eu hysgwyddau, a nifer fawr o blant yno gyda’u rhieni ifanc.

“Mae’n amlwg nad ydi’r arweiniad yn dod o Gaerdydd,” meddai Bryn Fôn ar derfyn y rali, “a dydw i ddim isio byw yn Wengland…  maen nhw wedi creu’r enw yna yn barod. Does yna ddim arweiniad gan Lafur na Phlaid Cymru… felly mae hi i fyny i ni. Ymlaen!”

Erthyglau perthnasol

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn

Straeon poblogaidd