Mae’r cwmni sy’n rhedeg y trên trwy dwnnel y Sianel am wneud yn iawn â chefnogwyr pêl-droed Cymru, wedi oedi mawr ddoe.

Mae cwmni Eurotunnel yn dweud ei fod yn fodlon newid dyddiad dychwelyd y ffans hynny sydd am aros wedi gêm rownd gyn-derfynol Cymru yn erbyn Portiwgal nos Fercher nesa’ – a hynny’n ddi-gost.

Ddoe, fe fu rhai cefnogwyr yn aros am gyhyd â phump awr, oherwydd bod cymaint o fynd ar y trên i gyrraedd Lille ar gyfer gêm Cymru yn erbyn Gwlad Belg.

Fe ddaeth  y cynnig heddiw gan Eurotunnel ar ffurf neges ar wefan gymdeithasol Twitter, ynghyd ag ymddiheuriad.

“Fe all unrhyw gefnogwr Cymru #WAL sy’n dymuno aros yn Ffrainc ar gyfer rownd gyn-derfynol #EURO2016 newid dyddiad dychwelyd eu tocyn yn rhad ac am ddim!” meddai’r neges, cyn rhoi’r rhif cyswllt (0)3457 35 35 35.