Bydd rali yng Nghaernarfon heddiw yn datgan bod annibyniaeth yn hanfodol yn sgil penderfyniad y Deyrnas Unedig i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae disgwyl i’r Arglwydd Dafydd Wigley, yr awdur Patrick McGuinness, a’r cynhyrchydd annibynnol Meic Birtwistle annerch y dorf ar y Maes ganol dydd.

Fe fydd Bardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn yn darllen cerdd newydd, a Bryn Fôn a Lisa Jên yn canu.

Mae’r rali Cymru Rydd yn Ewrop am 12pm ar y Maes yng Nghaernarfon wedi ei threfnu gan gangen newydd Yes Cymru yng Nghaernarfon a Chymdeithas yr Iaith Gymraeg.

Bydd rali gan Yes Cymru yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd heddiw am 2yp, ger cerflun Aneurin Bevan ar Heol y Frenhines.