Ian Watkins
Bydd tri ditectif a dderbyniodd gwynion am y pedoffil Ian Watkins bedair blynedd cyn iddo gael ei arestio yn wynebu achos disgyblu, meddai Comisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu (IPCC).

Cafodd cyn-ganwr y Lostprophets ei garcharu am 29 mlynedd yn 2013 wedi iddo bledio’n euog i gyfres o droseddau rhyw, gan gynnwys ymgais i dreisio babi.

Fodd bynnag, dywedodd yr IPCC fod Heddlu De Cymru wedi derbyn gwybodaeth am Watkins nôl yn 2008.

Ac yn dilyn ymchwiliad manwl, mae’r IPCC wedi dweud fod gan tri swyddog – un ditectif ringyll a dau dditectif gwnstabl – achosion yn eu herbyn i’w hateb.

Yn ogystal, dywedodd yr IPCC eu bod yn argymell achos pellach yn erbyn y ditectif sarjant am gamymddwyn difrifol oherwydd ei “ddiffyg gweithredu” yn dilyn derbyn adroddiadau bod merch 15 mlwydd oed wedi ei threisio gan y canwr.

Dywedodd Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu De Cymru Jon Drake bod y llu’n derbyn argymhellion yr IPCC ac y byddai’r achosion disgyblu yn digwydd yn yr hydref.

Ychwanegodd Jon Drake bod yr heddlu yn cymryd y mater o amddiffyn pobl sy’n agored i niwed yn ddifrifol iawn.

“Testun pryder mawr”

Mae NSPCC Cymru ar y llaw arall wedi lleisio pryder am ganfyddiadau’r  IPCC.

Dywedodd llefarydd ar ran yr elusen plant: “Mae’n destun pryder mawr fod yr IPCC yn credu na chafodd honiadau o gam-drin eu hymchwilio’n briodol ac a allai fod wedi arwain at ddod ag Ian Watkins o flaen ei well yn gynharach.

“Rydym yn gobeithio y bydd yr achosion disgyblu yn cael eu cynnal yn gyflym fel y gall canfyddiadau llawn yr IPCC i sut wnaeth yr heddlu ymchwilio i droseddau ffiaidd Ian Watkins gael eu gwneud yn gyhoeddus.”