Mae Cynghrair y Trethdalwyr wedi dweud bod angen cael gwared ar gynllun adsefydlu ACau oherwydd ei fod yn “gamddefnydd o arian y trethdalwyr”.

Y bore yma, daeth i’r amlwg bod 18 Aelod Cynulliad adawodd yn dilyn etholiad mis Mai wedi cael cyfanswm o £825,000 o dan gynllun adsefydlu.

Roedd rhai o’r ACau wedi colli eu seddi ac eraill yn ymddeol o’r Cynulliad.

Dywedodd llefarydd ar ran Cynghrair y Trethdalwyr wrth golwg360 bod derbyn arian am golli etholiad “nid yn unig yn amlwg yn anghywir, ond ei fod hefyd yn anfon y neges anghywir i’r etholwyr.

“Mae’n rhaid stopio camddefnyddio arian y trethdalwr.

“Mae llawer o bobl yn rai da am gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth i wella eu cymunedau, ond mae ein sefydliadau wedi troi’n bla o wleidyddion gyrfa.

“Ar ôl sawl blwyddyn o galedi a chymunedau Cymru yn dioddef oherwydd camreoli ym Mae Caerdydd, efallai bod angen agwedd symlach i lywodraethu yng Nghymru.

“Rydym wedi cael Llywodraeth Cymru a oedd i fod i dargedu blaenoriaethau Cymru, ond mae’n ymddangos fod yna nifer sylweddol o fewn sefydliadau sydd wedi blaenoriaethu eu hunain.”

 Taliadau

Mae’r swm mae pob cyn-Aelod Cynulliad yn ei dderbyn yn dibynnu ar eu hoedran, pa swyddi oedden nhw’n eu dal a pha mor hir fuon nhw yn y gwaith.

Daeth y ffigyrau i’r fei yn dilyn cais gan BBC Cymru dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.

Yr Aelod Cynulliad a gafodd y mwyaf o arian oedd Edwina Hart o Llafur – £64,878.

Cafodd Rhodri Glyn Thomas o Blaid Cymru £64,552, Janice Gregory o’r Blaid Lafur £60,988 a Jocelyn Davies o Blaid Cymru £60,987.