Mae rali i gefnogi Jeremy Corbyn yng Nghaerdydd (Garry Knicht CCA2.0)
Fe fydd rali’n cael ei chynnal yng Nghaerdydd heno i gefnogi arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn, yn erbyn ei wrthwynebwyr.

Yn ôl un o’r trefnwyr, Seb Cooke, mae ymgais y “Blairites” i ddisodli’r arweinydd wedi methu ac fe fydd y rali’n dangos bod momentwm ar ochr ei gefnogwyr.

Fe ddywedodd un o’r trefnwyr eraill, Shav Taj, y dylai ASau sy’n methu â chefnogi Jeremy Corbyn gael eu symud o’r neilltu er mwyn pobol sydd am wneud hynny.

“Os dyna sydd ei angen, dyna sydd ei angen,” meddai wrth Radio Wales, gan ddweud y dylai Llafur fod yn tynnu at ei gilydd yn wyneb helyntion gwleidyddol y dyddiau diwetha’.

‘Brad’

Mae Dirprwy Arweinydd Cyngor Dinas Caerdydd, Sue Lent, hefyd ymhlith cefnogwyr Jeremy Corbyn, gan ddweud bod yr ASau Cymreig sydd wedi ymddiswyddo o’r cabinet Llafur wedi bradychu’r aelodau.

Fe fydd y rali’n cael ei chynnal y tu allan i swyddfeydd y Blaid Lafur yng nghanol Caerdydd am chwech o’r gloch heno.