Y ganolfan
Mae diffoddwyr wedi bod yn ceisio diffodd tân mewn canolfan siopa yng nghanol Caerdydd y bore yma.

Yn ôl y Gwasanaeth Tân ac Achub, roedd y tân ar lawr 9 lefel 3 o ran newydd Canolfan Siopa Dewi Sant.

Roedd pedair injan dân ar y safle ac, yn ôl yr adroddiadau diweddara’, fe gafodd ei ddiffodd yn gymharol gyflym.

Fe gafodd y ganolfan ei chau am gyfnod.