Dafydd Wigley - un o'r siaradwyr yng Nghaernarfon (Llun: Plaid Cymru)
Bydd rali yng Nghaernarfon ddydd Sadwrn yn datgan bod annibyniaeth yn hanfodol yn sgil penderfyniad y Deyrnas Unedig i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae’r rali Cymru Rydd yn Ewrop am 12pm ar y Maes yng Nghaernarfon wedi ei threfnu gan gangen newydd Yes Cymru yng Nghaernarfon a Chymdeithas yr Iaith Gymraeg.

Dywedodd un o’r hyrwyddwyr, Ifan Morgan Jones, bod Cymru bellach yn wynebu bod yn rhan o wladwriaeth a oedd yn ei hesgeuluso yn wleidyddol ac yn annibynnol.

Fe fydd y siaradwyr yn cynnwys yr Arglwydd Dafydd Wigley, yr awdur Patrick McGuinness, a’r cynhyrchydd teledu annibynnol Meic Birtwistle.

Fe fydd Bardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn yn darllen cerdd newydd, a Bryn Fôn a Lisa Jên yn canu.

Rali yng Nghaerdydd hefyd

Fe fydd ail rali gan Yes Cymru yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd yr un diwrnod, am 2pm, ger cerflun Aneurin Bevan ar Heol y Frenhines. Un o’r cyfranwyr yno yw Mariana Díaz fydd yn annerch y rali gan siarad am Catalunya, Cymru a’r byd.

Yn ôl Ifan Morgan Jones roedd y “sail resymegol” a gyflwynwyd gan yr ymgyrch Allan dros gefnu ar yr Undeb Ewropeaidd wedi syrthio’n ddarnau yn y dyddiau diwethaf.

Mae hyn, meddai, yn cynnwys cyfaddef na fydd modd lleihau mewnfudo ac na fydd gan y Deyrnas Gyfunol ragor o arian i’w fuddsoddi yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

‘Blynyddoedd dan fawd plaid Geidwadol’

“Sut mae Cymru, a oedd wedi elwa o £4 biliwn o fuddsoddiad yr Undeb Ewropeaidd ers y flwyddyn 2000, yn ogystal â manteision bod yn y farchnad sengl, wedi elwa o’r cawlach hyn?” meddai Ifan Morgan Jones.

“Fe bleidleisiodd 48% o drigolion Cymro o blaid aros yn yr Undeb Ewropeaidd, ac mae nifer a bleidleisiodd Allan bellach yn ailystyried eu penderfyniad yn sgil y chwalfa wleidyddol ac economaidd a ddaeth yn ei sgil.

“Gyda’r Blaid Lafur a chwâl, ac ansicrwydd am ddyfodol yr Alban a Gogledd Iwerddon yn yr undeb, mae Cymru yn wynebu blynyddoedd dan fawd plaid Geidwadol sydd yn symud fwyfwy i’r dde wleidyddol.

“Rydan ni’n ddemocratiaid ac yn parchu penderfyniad y bobol – ond mae angen yn awr dechrau’r drafodaeth ynglŷn â dyfodol Cymru a chyflwyno’r ddadl dros annibyniaeth.”