Cefnogwyr Cymru! (Llun: Huw Tomos-Griffiths)
Mae cefnogwyr pêl-droed Cymru wedi cael eu canmol am ymddwyn yn “berffaith” yng mhencampwriaeth Ewro 2016.

Yn ôl yr uwchswyddog sy’n gyfrifol am heddlua pêl-droed ar draws gwledydd Prydain, roedden nhw’n gobeithio y byddai hynny’n parhau wrth i Gymru chwarae yn rownd yr wyth ola’ nos fory.

Fe ddywedodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Mark Roberts, roedden nhw’n cydweithio gyda heddlu Ffrainc yn Lille lle mae’r gêm yn erbyn Gwlad Belg, gan ddweud eu bod wedi gwneud hynny’n llwyddiannus mewn gêmau cynharach.

Fe fydd gwaharddiad ar yfed alcohol mewn mannau cyhoeddus ac fe fydd bariau’n rhoi ‘gwydrau’ plastig yn hytrach na rhai gwydr go iawn.