Paul Flynn - 81 oed (o'i wefan)
Mae AS Gorllewin Casnewydd Paul Flynn wedi dweud â’i dafod yn ei foch fod ei benodiad i gabinet y Blaid Lafur wedi agor y ffordd i greu trefn newydd ar gyfer seddi San Steffan – rhestrau byr o bobol sydd i gyd yn eu hwythdegau.
Mae Aelod Seneddol Gorllewin Casnewydd, sy’n 81 oed, wedi dychwelyd i feinciau blaen ei blaid am y tro cynta’ ers 29 o flynyddoedd.
Mae’n cymryd lle AS y Rhonda Chris Bryant yn arweinydd cysgodol Tŷ’r Cyffredin ar ôl i hwnnw ymddiswyddo yn brotest yn erbyn arweinydd y blaid, Jeremy Corbyn.
‘Cyfle’r wythdegwyr’
Tra bod arweinydd Tŷ’r Cyffredin, Chris Grayling wedi llongyfarch Flynn ar gamp “ryfeddol” wrth ddychwelyd i’r rhengoedd blaen, tynnodd llefarydd yr SNP, Pete Wishart, sylw at y ffaith nad ef oedd “cweit yn ddewis cyntaf”.
Dywedodd Paul Flynn: “Efallai y cewch chi rywfaint o syndod o’m gweld i yn y sefyllfa hon oblegid, ers 26 o flynyddoedd, rwy wedi bod ar y meinciau cefn drwy ddewis, nid yn unig fy newis i ond dewis pump arweinydd blaenorol fy mhlaid!”
Roedd Llafur wedi llwyddo i ddenu mwy o fenywod i’r meinciau blaen a mwy o bobol o leiafrifoedd ethnig, meddai – cyfle’r wythdegwyr oedd hwn.
Rhestrau byr
Ychwanegodd fod ei benodiad yn “torri tir newydd” ac y byddai’n “arwain at restrau byrion o bobol i gyd yn eu hwythdegau o fewn y blaid”.
Dywedodd mai peth braf oedd “y cyfoeth o brofiadau a doethineb” y gall ymgeiswyr o’r fath eu cynnig.
“Mae’n bwysig bod gyda ni bobol yn y Tŷ sy’n gallu cofio bywyd cyn bod yna Wasanaeth Iechyd!” meddai.