Neuadd Pantycelyn
 Mae Cyngor Prifysgol Aberystwyth wedi cymeradwyo cynllun i ailagor Neuadd Pantycelyn, gan ymrwymo i’w hail-agor erbyn mis Medi 2019.

Opsiwn B y cynllun dylunio yn adroddiad Bwrdd Prosiect Pantycelyn sydd wedi’i gymeradwyo, sef 200 o ystafelloedd – i gyd yn rhai en-suite, a fydd yn costio tua £10 miliwn.

Bydd y gwaith yn cynllunio yn dechrau nawr ac mae disgwyl i Dîm Gweithredol y Brifysgol gyflwyno adroddiad gerbron Pwyllgor Cyllid y brifysgol ym mis Hydref yn nodi’r opsiynau cyllido.

Mae’n debyg bod y brifysgol yn ystyried ymgyrch benodol i godi arian ar gyfer adnewyddu’r llety i fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith.

Mae’r Cyngor wedi dweud bod “amgylchiadau ariannol” y Brifysgol, ac “ansicrwydd” yn dilyn canlyniad Brexit y refferendwm yn golygu y bydd rhaid iddi “sicrhau’r cyllid angenrheidiol er mwyn gwneud ymrwymiad cwbl gadarn.”

‘Ymroddiad’

“Mae heddiw yn nodi cam arall ymlaen yn ein hymroddiad i ddarparu llety o’r radd flaenaf ym Mhantycelyn ar gyfer myfyrwyr cyfrwng Cymraeg sy’n dod i Aberystwyth yn y dyfodol,” meddai Cadeirydd y Cyngor a Changhellor Prifysgol Aberystwyth, Syr Emyr Jones Parry.

“Yn ystod ein cyfarfod hefyd, fe wnaethon ni danlinellu’n hymroddiad i Gampws Arloesi a Menter Aberystwyth yng Ngogerddan, a chytuno i fwrw ’mlaen gyda’n cais i Gronfa Treftadaeth y Loteri ar gyfer yr Hen Goleg.”

Bydd Bwrdd Prosiect Pantycelyn bellach yn gweithio gyda phenseiri i ddatblygu’r cynlluniau manwl ar gyfer ailwampio’r neuadd sydd wedi bod yn darparu llety i fyfyrwyr Cymraeg ers 1973.

Yn y cyfamser, bydd myfyrwyr Cymraeg wedi cael eu symud i neuadd breswyl gyfagos, Penbryn, ac yn ôl y Brifysgol, bydd yr ardaloedd sy’n cael eu clustnodi ar gyfer myfyrwyr Cymraeg yn cael eu ‘brandio’ er mwyn cynnal y cysylltiad gyda Phantycelyn.