Y Preifat Matthew Boyd
Mae dau ddyn sydd wedi’u cyhuddo o lofruddio a dynladdiad milwr yn Aberhonddu wedi bod gerbron llys heddiw.

Cafwyd hyd i’r Preifat Matthew Boyd, 29, o Gatrawd Frenhinol Gibraltar, yn anymwybodol yng nghanol Aberhonddu ym mis Mai.

Yn Llys y Goron Caerdydd heddiw fe wnaeth Jake Vallely, 23 bledio’n ddieuog i gyhuddiad o lofruddio’r milwr.

Mae Aaeron Evans, 22, hefyd wedi pledio’n ddieuog i gyhuddiad o ddynladdiad.

Mae disgwyl i’r ddau ymddangos eto ar 30 Medi, ac mae dyddiad achos arall wedi’i nodi ar gyfer 14 Tachwedd.

Mae’r ddau ddyn yn cael eu cadw yn y ddalfa tan y gwrandawiad nesaf.