Mae Heddlu Dyfed Powys yn ymchwilio i ymosodiad difrifol yng Nghaerfyrddin neithiwr.

Cafodd yr heddlu eu galw i eiddo yn Stryd Morgan tua 11.20yh nos Llun, 27 Mehefin.

Cafodd dyn 47 oed ei gludo i Ysbyty Glangwili gydag anafiadau difrifol ac mae’n parhau mewn cyflwr difrifol.

Mae dyn wedi cael ei arestio ac yn cael ei gadw yn y ddalfa.

Mae’r heddlu’n apelio am dystion neu unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw ar 1010 neu Taclo’r Taclau’n ddienw ar 0800 555111.

Mae rhagor o blismyn ar batrôl yn yr ardal heddiw.