Mick Antoniw AC
Aelod Cynulliad Llafur Pontypridd, Mick Antoniw, yw Cwnsler Cyffredinol newydd Cymru, a fydd yn brif gynghorydd cyfreithiol Llywodraeth Cymru.

Yr wythnos ddiwethaf, cafodd ei enw ei argymell gan Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, a bellach mae wedi’i benodi’n swyddogol gan Frenhines Prydain.

Prif gyfrifoldeb y cwnsler yw darparu cyngor cyfreithiol i Lywodraeth Cymru a’i chynrychioli mewn achosion cyfreithiol.

Cyn dod yn Aelod Cynulliad yn 2011, roedd Mick Antoniw yn bartner mewn cwmni cyfreithiol undebau llafur, sef Thompsons.

Bydd ei gyfrifoldebau eraill yn cynnwys, ymateb i gynigion neu ymgynghoriadau ar faterion cyfreithiol yng Nghymru a rhoi cyngor ar ddatblygu polisi’r llywodraeth ar faterion cyfreithiol.

Bydd hefyd yn gorfod cyflwyno, amddiffyn neu ymddangos mewn achosion cyfreithiol yn ymwneud â’r llywodraeth a chyfeirio Bil Cynulliad i’r Goruchaf Lys.

“Swydd hanfodol bwysig”

“Fel prif gynghorydd cyfreithiol Llywodraeth Cymru, mae’r Cwnsler Cyffredinol yn gweithio i gynnal trefn y gyfraith yng Nghymru,” meddai Carwyn Jones.

“Mae hon yn swydd hanfodol bwysig, yn enwedig wrth inni ddechrau ar dymor pum mlynedd newydd gyda chorff cynyddol o gyfreithiau yng Nghymru.”

Dywedodd Mick Antoniw AC, “Mae hwn yn gyfnod allweddol yn hanes Cymru wrth inni barhau i deithio ar hyd llwybr datganoli a cheisio sicrhau Bil Cymru sy’n addas i’n dibenion er mwyn cyflawni ar gyfer pobl Cymru.

“Mae llawer o waith pwysig i’w wneud mewn amser byr ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at gychwyn ar fy rôl newydd.”