Owen Smith, AS Pontypridd, Llun: Gwefan Owen Smith
Mae saith Aelod Seneddol Llafur o Gymru wedi cadarnhau eu bod am ymddiswyddo o gabinet yr wrthblaid oherwydd eu diffyg hyder yn yr arweinydd Jeremy Corbyn.

Mae’r enwau bellach yn cynnwys Nia Griffith, Susan Elan Jones, Gerald Jones, Owen Smith, Wayne David, Stephen Kinnock a Chris Bryant.

Mae’r saith ymhlith 25 aelod o’r fainc flaen sydd wedi ymddiswyddo hyd yn hyn. Mae Corbyn wedi ymateb i’r ymddiswyddiadau drwy benodi 10 aelod newydd i’w gabinet.

Daw ymddiswyddiad Nia Griffith, Ysgrifennydd Gwladol Cysgodol Cymru, wedi iddi gyfarfod â Jeremy Corbyn y bore yma i bwyso arno i ailystyried ei arweinyddiaeth wedi’r refferendwm.

“Fodd bynnag, dydw i ddim yn teimlo bod ein trafodaethau’r bore yma wedi rhoi hyder imi y gallwn ni gyrraedd undod.”

‘Colli hyder y blaid’

Dywedodd Nia Griffith fod ganddi edmygedd o waith Jeremy Corbyn ond “roedd canlyniad y refferendwm yr wythnos diwethaf a’r tebygrwydd o etholiad cyffredinol cynnar yn golygu fod angen arweinyddiaeth newydd ar y blaid.”

“Mae Jeremy wedi colli hyder y blaid, gan gynnwys nifer o aelodau wnaeth ei gefnogi yn y lle cyntaf, a dylai nawr wneud y peth iawn ac ymddiswyddo,” meddai.

Dywedodd bod gwasanaethu fel Ysgrifennydd Gwladol Cysgodol Cymru dros y naw mis diwethaf wedi bod yn “fraint.”

Mae Owen Smith wedi dweud wrth Jeremy Corbyn y dylai dirprwy arweinydd y blaid Tom Watson gymryd yr awenau dros dro.

Ac mae AS Caerffili Wayne David wedi galw ar Jeremy Corbyn i ymddiswyddo “cyn achosi mwy o niwed.”

Mae disgwyl i’r Aelodau Seneddol drafod yr ymddiswyddiadau, y bleidlais o ddiffyg hyder a chamau gweithredu wedi’r refferendwm yn eu cyfarfod am 6yh yn San Steffan heno.

Corbyn – o blaid Brexit?

 

Yn y cyfamser, mae Aelod Seneddol y Rhondda, Chris Bryant, wedi dweud ei fod e’n amau y gallai Jeremy Corbyn fod wedi pleidleisio o blaid Brexit, wedi i’r arweinydd wrthod dweud wrtho ba ffordd y gwnaeth daro ei bleidlais.

“Dw i’n amau y gallai Jeremy fod wedi pleidleisio i adael,” meddai Bryant.

“Nid yn unig y mae hynny’n bradychu safiad hanesyddol Llafur ar yr Undeb Ewropeaidd – polisi economaidd a thramor sylfaenol inni – ond mae hefyd yn golygu y byddem, yn ôl arolwg diweddar, yn colli 150 o seddi pe bai yn ein harwain i etholiad cyffredinol.”