Wayne David AS Caerffili, (Llun: O wefan Wayne David)
Mae Aelod Seneddol Caerffili wedi galw ar arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn, i ymddiswyddo cyn “achosi mwy o niwed fyth.”

Cyhoeddodd Wayne David y bore yma ei fod yn bwriadu ymddiswyddo o feinciau blaen cabinet cysgodol Llafur gan ddweud wrth Golwg360 ei fod wedi’i siomi â “pherfformiad difflach Jeremy Corbyn” yn ystod yr ymgyrch i aros yn yr Undeb Ewropeaidd.

“Doedd ganddo ddim brwdfrydedd ac fe ddylai ymddiswyddo yn syth a rhoi blaenoriaeth i ddyfodol y blaid Lafur yn genedlaethol cyn ei falchder a’i ego ei hun.”

Owen Smith,  AS Pontypridd, ac ysgrifennydd gwaith a phensiynau’r wrthblaid, yw’r diweddaraf i ymddiswyddo – mae’n un o 25 aelod o’r fainc flaen sydd wedi ymddiswyddo hyd yn hyn. Mae Corbyn wedi ymateb i’r ymddiswyddiadau drwy benodi 10 aelod newydd i’w gabinet.

Mae Lisa Nandy ac Owen Smith wedi dweud wrth Jeremy Corbyn y dylai dirprwy arweinydd y blaid Tom Watson gymryd yr awenau dros dro.

Fe gyhoeddwyd prynhawn ma hefyd bod Angela Eagle, aelod mwyaf blaenllaw cabinet yr wrthblaid, hefyd wedi ymddiswyddo.  Dywedodd Eagle bod angen arweinydd “sy’n gallu uno nid rhannu’r Blaid Lafur.”

O ran ASau Llafur Cymru, mae Chris Bryant,  Stephen Kinnock a Nia Griffith, llefarydd Llafur ar Gymru, eisoes wedi ymddiswyddo o gabinet yr wrthblaid ynghyd a Susan Elan Jones a Gerald Jones.

‘Dim arweiniad gan Corbyn’

Yn etholaeth Wayne David, Caerffili, pleidleisiodd 14,117 yn fwy o bobl dros adael nag aros yn ystod y refferendwm.

Er hyn, dywedodd yr Aelod Seneddol ei fod wedi “gweithio’n galed ar lefel lleol” a bod Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi dangos “arweiniad clir.”

“Ond, gawson ni ddim arweiniad gan Corbyn, ac mae’n amlwg felly bod celwyddau Farage a diffyg neges glir y blaid Lafur wedi arwain at nifer o bobol oedd arfer pleidleisio Llafur i droi at yr ymgyrch i adael.”

Ychwanegodd nad oedd “pwrpas” codi amheuon am ei arweinyddiaeth cyn y refferendwm am y byddai “amheuon o’r fath wedi gwanhau llais cryf Llafur a mwy o bobl yn troi oddi wrthym.”

Cyfarfod heno

Mae cyfarfod seneddol y blaid Lafur yn cael ei gynnal am 6yh yn San Steffan heno, lle mae disgwyl i’r ASau drafod y bleidlais o ddiffyg hyder yn Jeremy Corbyn.

Nid oedd Wayne David yn barod i awgrymu pwy fyddai e’n ffafrio fel arweinydd nesaf y blaid a dywedodd, “mae’n bwysig ein bod yn gadael y drws yn agored i ymgeiswyr posib, ac mae’n bryd i Jeremy Corbyn sylweddoli nad fe yw’r un i’r swydd hon.”