Digwyddodd y twrw ger Stadiwm Principality yng Nghaerdydd
Cafodd yr heddlu eu galw i ganol Caerdydd nos Sadwrn yn dilyn adroddiadau o dwrw mawr.

Roedd grwpiau o bobol ifanc yn ymladd â’i gilydd, ac roedd adroddiadau bod gan rai ohonyn nhw arfau.

Cafodd yr heddlu eu galw i’r ardal ger parth cefnogwyr Ewro 2016 am 7.20 nos Sadwrn ar adeg pan oedd miloedd o gefnogwyr yn anelu am adref ar ôl gwylio Cymru’n curo Gogledd Iwerddon.

Mae lle i gredu bod rhai o’r bobol oedd ynghlwm wrth y digwyddiad wedi bod yn y parth cefnogwyr, a’u bod nhw wedi cael eu gweld yn y brifddinas yn ystod y prynhawn.

Dydy hi ddim yn glir eto beth oedd wedi achosi’r twrw.

Dydy’r heddlu ddim wedi cadarnhau faint o bobol gafodd eu harestio.