Mae dau o bobol wedi cael eu hanafu’n ddifrifol yn dilyn gwrthdrawiad yng Nghasnewydd fore Sul.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Ffordd Malpas am 7.36yb, ac maen nhw’n dal i fod ar safle’r gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd.

Cafodd dau o bobol eu cludo i’r ysbyty – y naill i Ysbyty Brenhinol Gwent a’r llall i Ysbyty Athrofaol Caerdydd – ag anafiadau difrifol.

Mae Ffordd Malpas ynghau wrth i’r heddlu gynnal ymchwiliad.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.