Gareth Bale yn dathlu wedi'r fuddugoliaeth yn erbyn Gogledd Iwerddon (Llun: PA)
Cymru 1 Gogledd Iwerddon 0

Fe lwyddodd Cymru i grafu trwodd i rownd wyth ola’ Ewro 2016, ar ôl perfformiad siomedig.

Yn y diwedd, roedd un chwip o groes o’r chwith gan Gareth Bale yn ddigon i orfodi gôl i’w rwyd ei hun gan amddiffynnwr Gogledd Iwerddon, McAuley ar ôl 74 munud.

Dyna’r un eiliad o safon gwirioneddol – doedd gan yr amddiffynnwr ddim dewis na gobaith gan fod Hal Robson-Kanu yn union y tu ôl iddo.

Roedd Cymru wei cael dau gyfle arall ynghynt – peniad siomedig gan Sam Vokes o ddegllath a chic rydd gan Gareth Bale a orfododd gol-geidwad y Gwyddelod i wneud ei arbediad cynta’ un ar ôl 56 munud.

Munudau anodd

Roedd Bale yn gynyddol wedi bod yn mynd yn ôl er mwyn casglu’r bêl a chael cyfle i redeg at y gwrthwynebwyr ond, ar wahân i’r un croesiad, doedd yntau ddim wedi gwneud argraff.

Gyda Gogledd Iwerddon yn dod â dau flaenwr ychwanegol ar y maes a chapten Cymru, Ashley Williams, yn llai na holliach ar ôl gwrthdrawiad efo’i chwaraewr ei hun, Johnny Williams, roedd yna funudau hir o boeni.

Mwy fyth pan gafodd Gogledd Iwerddon gic rydd ac wedyn cornel yn y pedwerydd munud o amser anafiadau … a’r dyn a gliriodd y gornel oedd Bale.

Ond, yn y diwedd, doedd gan Ogledd Iwerddon ddim miniogrwydd ac fe lwyddodd Cymru i ennill ar ôl chwarae’n wael.

Fe gyfaddefodd y rheolwr Chris Coleman wedyn mai Gogledd Iwerddon oedd orau ond fod ennill felly yn arwydd o gymeriad Cymru.

Yr hanner cynta’ fan hyn