Wayne Hennessey - dau arbediad da
Cymru 0 Gogledd Iwerddon 0

Doedd yna ddim tân yn chwarae Cymru yn hanner cynta’r ornes yn rownd 16 ola’ Ewro 2016.

Dim ond dwywaith y llwyddon nhw i fygwth gôl Gogledd Iwerddon o gwbl.

Ar y llaw arall, fe fu’n rhaid i Wayne Hennessey arbed ddwy waith – ac un o’r rheiny’n arbediad da wrth ei bostyn de ar ôl naw munud.

Yn y chwarter awr ola’, roedd yna arwyddion o geisio codi’r tempo ond doedd pethau ddim yn gweithio ac roedd Gogledd Iwerddon yn bygwth gyda phob gic osod.

Cau Cymru

Roedd y Gwyddelod yn ymddangos yn fwy awchus, gan gau chwaraewyr Cymru a doedd pasio’r rheiny ddim mor gyflym na chywir ac yn erbyn Rwsia.

Ar ôl 18 munud y daeth cyfle gorau Cymru – pas hir gan Ashley Williams yn cael ei chodi gan Gareth Bale ar y chwith, yntau’n croesi a Sam Vokes yn penio i lawr i Ramsey a sgoriodd … ond roedd yn camsefyll.

Ar ôl hynny, ddaeth Cymru ddim yn agos; nhw oedd yn cael y meddiant ond Gogledd Iwerddon yn bygwth mwy.