Chris Coleman yn dathlu'r fuddugolaeth yn erbyn Rwsia nos Lun (llun: PA)
Gyda Gareth Bale, Aaron Ramsey a Joe Allen yn chwarae, mae’r gobeithion yn uchel am i Gymru guro Gogledd Iwerddon heno.

Mae gan Gymru dîm gwirioneddol dda ar gyfer y gêm, yn ôl y rheolwr Chris Coleman.

“Pêl-droed twrnameint yw hwn ac mae’r ddau dîm mewn sefyllfa lle maen nhw wedi ennill parch a sylw,” meddai.

“Yr her yw pwy fydd yn dygymod orau â’r sylw a phwy sy’n perfformio orau o dan bwysau.”

Os bydd Cymru’n ennill heno, fe fydd yn wynebu Hwngari neu Wlad Belg yn Lille ddydd Gwener.

“Allwn ni ddim fforddio edrych ymhellach na’r gêm nesaf, ac all Gogledd Iwerddon ddim chwaith,” meddai Chris Coleman.

“Mae hi’n bopeth neu ddim bellach. Ond fe wnawn ni ei thrin fel unrhyw gêm arall.

“Fe fyddwn ni’n canolbwyntio rhywfaint ar Ogledd Iwerddon, ond arnon ni’n hunain yn bennaf a’r hyn y gallwn ei wneud.

“Rydym wedi bod yn crefu am hyn ers blynyddoedd, a dw i’n meddwl bod gynnon ni dîm da, tîm gwirioneddol dda.”

‘Nerth corfforol’

Dywed y capten, Ashley Williams, fod y nerth a’r penderfyniad gan y tîm i ddal ati’n ddiflino i sicrhau buddugoliaeth.

Er nad oes gan Ogledd Iwerddon chwaraewyr unigol mor ddawnus ag sydd gan Gymru, mae’r tîm wedi gwneud enw iddo’i hun ar sail nerth corfforol, ynni a phenderfyniad.

Yn ôl Ashley Williams, mae’r un cryfderau hyn gan chwaraewyr Cymru hefyd.

“Fe wyddon ni y bydd hi’n gêm galed, gorfforol yn erbyn Gogledd Iwerddon, ond rydym yn fwy na pharod am yr her.

“Rydym yn gallu brwydro’n ddiflinio, ac yn benderfynol o aros yn y twrnameint cyhyd ag y gallwn.”

Mae’r gic gyntaf am 6pm amser Ffrainc, a 5pm yng Nghymru ac mae’r gêm i’w gweld yn fyw ar S4C mewn rhaglen sy’n cychwyn am 4.15pm.