Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws
Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi croesawu’r cadarnhad y bydd pwyllgor newydd yn cael ei sefydlu yn y Cynulliad i graffu ar faterion yn ymwneud â’r Gymraeg.

Cyhoeddwyd yn y Senedd ddoe y bydd Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu yn cael ei sefydlu.

Dywedodd y Comisiynydd, Meri Huws, bod sefydlu’r pwyllgor yn ateb un o’i phrif bryderon fel Comisiynydd, nad oedd digon o graffu ar faterion yn ymwneud â’r Gymraeg.

Yn ogystal â hynny, bydd cyfrifoldeb ar bob un o bwyllgorau eraill y Cynulliad i ystyried y Gymraeg wrth graffu ar eu meysydd polisi.

‘Mwy o sylw i’r Gymraeg’

Dywedodd Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws: “Un o fy mhrif bryderon ers dod yn Gomisiynydd oedd cyn lleied o graffu oedd yna ar faterion yn ymwneud â’r Gymraeg yn ein Senedd.

“Roeddwn yn gweld penderfyniadau’n cael eu gwneud am y Gymraeg – boed nhw’n rhai polisi neu’n rhai cyllidebol – heb fforwm addas i ofyn y cwestiynau priodol am eu heffaith. Ar yr un pryd, roedd penderfyniadau’n cael eu gwneud mewn meysydd eraill oedd yn cael effaith uniongyrchol ar fywydau pobl yng Nghymru, gyda’r ystyriaeth o’r Gymraeg yn absennol neu’n ymylol.

“Rwy’n croesawu’n fawr y cyhoeddiad y bydd pwyllgor yn rhoi lle canolog i graffu ar faterion yn ymwneud â’r Gymraeg ac y bydd cyfrifoldeb ar bwyllgorau eraill i ystyried yr iaith. Edrychaf ymlaen at weld mwy o sylw i’r Gymraeg o fewn gwaith y Cynulliad a’r llywodraeth o ganlyniad i’r datblygiadau cadarnhaol hyn.”