Llys y Goron Abertawe
Mae disgwyl i ddyn gael ei ddedfrydu heddiw ar ôl ei gael yn euog o lofruddio’i landlord yn Abertawe.

Clywodd Llys y Goron Abertawe bod David Ellis wedi ymosod ar Alec Warburton gyda morthwyl yn ei gartref yn Heol Vivian, Sgeti fis Awst y llynedd cyn gyrru i hen chwarel yn Nolwyddelan i gael gwared a’i gorff.

Ffrae tros rent oedd wedi arwain at yr ymosodiad, meddai Ellis yn ystod yr achos llys, ac fe glywodd y llys hefyd fod Ellis wedi cynllwynio i ddwyn arian oddi ar denantiaid eraill drwy esgus bod Warburton wedi gadael nodyn yn gofyn am eu rhent.

Roedd Ellis eisoes wedi cyfaddef dynladdiad ei landlord, gan ddweud ei fod e “wedi colli rheolaeth” ar ôl i Alec Warburton ofyn am “ffafrau rhywiol” yn lle arian am rent.

Ond fe wadodd iddo’i lofruddio.

Fodd bynnag, fe gafwyd Ellis yn euog o lofruddiaeth ar ôl i’r rheithgor ystyried eu dyfarniad ers tridiau.

Fe fydd Ellis yn cael ei ddedfrydu gan farnwr yr Uchel Lys Mr Ustus Knowles ddydd Iau.