Mae is-reolwr tîm pêl-droed Cymru, Osian Roberts wedi dweud eu bod nhw wedi “gwneud eu gwaith cartref” wrth iddyn nhw aros i glywed pwy fyddan nhw’n eu hwynebu yn rownd yr 16 olaf yn Ewro 2016 yn Ffrainc.

Bydd Cymru’n herio’r trydydd tîm gorau allan o grwpiau A, C neu D yn y Parc des Princes ym Mharis ddydd Sadwrn.

Paratoadau

Wrth ganmol perfformiad “arbennig o gryf” gan amddiffynwyr Cymru wrth iddyn nhw golli o 2-1 yn erbyn Lloegr, dywedodd Roberts y byddai’r tîm hyfforddi’n defnyddio’r “un broses” wrth baratoi ar gyfer y rowndiau olaf ar ôl cymhwyso o Grŵp B gyda buddugoliaeth o 3-0 dros Rwsia yn Toulouse nos Lun.

“Yr adeg yma o’r paratoadau, ’dan ni’n canolbwyntio arnon ni’n hunain. Ond wrth gwrs, edrych yn ôl ar y gêm ydan ni heddiw ’ma… ac erbyn heno byddan ni’n gwybod pwy fyddan ni’n eu hwynebu.

“Wrth gwrs, mae’r gwaith cartref i gyd wedi bod yn cymryd lle am bob gêm ac mae gynnon ni dîm o sgowts – mae ganddon ni naw ohonyn nhw yma – bob gêm sydd wedi cael ei chwarae hyd yn hyn yn y twrnament, mae gynnon ni o leiaf un wedi bod ym mhob gêm.

“Mae’r adroddiadau i gyd gynnon ni, felly mae’r gwaith cartref a’r adroddiadau yna i gyd yn barod i fynd. Felly fyddan ni ddim yn parcio nac yn gorfod ‘reactio’ i ddim byd heno. Mae bob dim yn barod ganddon ni.”

‘Pawb yn ffit’

O ran y chwaraewyr, dywedodd Osian Roberts fod “pawb yn ffit” ar drothwy un o’r gemau mwyaf yn hanes Cymru, ac mae’r diwrnod ychwanegol o orffwys wedi bod yn fantais, meddai.

“Mae’r chwaraewyr wedi torri record o ran data o ran faint maen nhw wedi rhedeg ac yn y blaen, felly mae’n bwysig bo bo ni’n trio cael cyn gymaint o ffresni â phosib.”

Yn gynharach heddiw, dywedodd y rheolwr Chris Coleman fod gan y chwaraewyr “eu traed ar y ddaear”  “eu traed ar y ddaear” ac nad oedd yn poeni pwy fyddai gwrthwynebwyr Cymru yn y rownd nesaf.

Wrth i’r gemau tyngedfennol gael eu chwarae heno, dyma’r  goblygiadau o ran gwrthwynebwyr posib Cymru.