Papur y Daily Post
Mae Undeb y Newyddiadurwyr (NUJ) wedi galw ar Aelodau Cynulliad i gamu i’r adwy yn dilyn cynlluniau cwmni Trinity Mirror i gael gwared â swydd gohebydd y Cynulliad y Daily Post.

Mae’r NUJ, sy’n dweud ei fod yn “gyfnod o argyfwng” i’r cyfryngau yng Nghymru, yn galw ar y Cynulliad i sefydlu pwyllgor y cyfryngau a chyfathrebu i graffu ar y diwydiant yng Nghymru.

Mae Trinity Mirror, sy’n berchen ar y nifer fwyaf o bapurau newyddion ledled Prydain yn mynd trwy gyfnod o ail-strwythuro ar hyn o bryd, gyda llawer o swyddi yn cael eu colli yn y broses.

Mae’n dweud y bydd digwyddiadau’r Senedd yn cael eu cynnwys ym mhapur y Daily Post o hyd, ond gan ohebwyr o’i swyddfa yng Nghyffordd Llandudno.

Fel rhan o’r ail-strwythuro, mae cynlluniau ar y gweill i ddiddymu wyth swydd gyda’r Daily Post, gan greu chwe swydd newydd.

Mae staff y Daily Post yng ngogledd Cymru, wedi pleidleisio i benderfynu a fyddan nhw’n streicio oherwydd y cynlluniau.

Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates, ei fod yn “codi pryder” bob amser pan fydd swyddi o’r fath yn dod dan fygythiad.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd corff annibynnol yn cael ei sefydlu i edrych ar ddyfodol darlledu a’r cyfryngau yng Nghymru.

Colli “crefft” y newyddiadurwr

Yn ôl Gareth Hughes, a fydd unig ohebydd y Cynulliad i’r wasg brint bellach, dydy cael cyn lleied o ohebwyr  ym Mae Caerdydd “ddim yn dda i’n system ddemocrataidd.”

“Bydd pobol yn y gogledd yn gwybod llai, er bod nhw’n (Trinity Mirror) dweud eu bod nhw’n mynd i fonitro fo (gwleidyddiaeth Bae Caerdydd), fedri di ddim monitro fo’n iawn os nad wyt ti yn yr union le,” meddai.

“Rwyt ti’n gorfod holi pobol, gweld pethau sy’n digwydd a dyna ran o beth mae newyddiadurwyr i fod i wneud – i fynd y tu ôl i ddatganiadau’r wasg sy’n cael eu cyhoeddi gan y Llywodraeth neu gan bleidiau gwleidyddol.”

Dywedodd ei fod yn pryderu bod “crefft” y newyddiadurwr yn cael ei cholli, a hynny am fod mwy a mwy o bwyslais ar ddilyn datganiadau’r wasg.

“Rydan ni’n mynd i fod mewn cymdeithas sy’n cael ei gwybodaeth mewn ffurfiau mae pobol eisiau iddyn nhw (gael y wybodaeth), ac nid mewn ffordd sy’n fwy, o bosib, yn fwy pwysig.”

‘Ymrwymiad’ i adrodd am wleidyddiaeth Cymru

Mae Trinity Mirror yn dweud ei fod wedi “ymrwymo” i adrodd am wleidyddiaeth Cymru ar lefel lleol a chenedlaethol.

“Credwn y gallwn wneud hyn yn well o’r gymuned, felly rydym yn penodi gohebydd gwleidyddiaeth a fydd yn gweithio yng Ngogledd Cymru ac a fydd yn parhau i ysgrifennu am y Cynulliad a materion llywodraeth leol sydd o bwys i’n darllenwyr,” meddai llefarydd.

Fe wnaeth ychwanegu nad oes unrhyw fwriad i symud i ffwrdd o “newyddion caled na gwleidyddiaeth”, er bod y cwmni wedi cael ei gyhuddo yn y gorffennol o ganolbwyntio gormod ar bynciau ffordd o fyw.

“Mae’n hanfodol i ddyfodol y cyfryngau, yng Nghymru ac yn lleoedd eraill, bod newyddiaduraeth yn addasu i’r ffyrdd newydd y mae darllenwyr yn cael eu newyddion.”

Doedd staff y Daily Post ddim am ymateb.