Malta
Mae dyn o Wynedd wedi marw oddi ar ynys Malta y penwythnos diwethaf wedi iddo gael ei daro gan gwch wrth nofio ar arfordir Gozo.

Roedd Allan Stanley, 76 oed, yn byw ym mhentref Nefyn yng Ngwynedd, ac roedd ganddo yntau a’i wraig Diane Stanley, gartref yr oeddent yn rhentu yn Gozo.

Bu farw ddydd Sadwrn wrth nofio yn y môr wedi iddo gael ei daro gan gwch.

Mae ei fab, Russell Stanley, wedi talu teyrnged iddo gan esbonio ei fod yn saer coed crefftus gyda busnes gwerthu dodrefn ei hun, Period Pine.

Esboniodd hefyd y byddai’n ymweld â Malta yn gyson a’i fod yn nofiwr mawr.