Charles Ashburner gyda baner Cymru (Llun: PA)
Ers i Gymru ddechrau chwarae ym mhencampwriaeth Ewro 2016, mae gwerthiant un cwmni baneri o Abertawe wedi cynyddu’n sylweddol.

Mae gwerthiant baneri Cymru MrFlag.Com wedi cynyddu 800% yn y pythefnos diwethaf ac mae’r perchennog, Charles Ashburner, yn dweud ei fod yn “teimlo rhyddhad” o weld y tîm yn cael lle yn yr 16 olaf.

Fel arfer, mae’r cwmni yn gwerthu mwy o faneri Lloegr na rhai Cymru “yn syml, am fod mwy o bobol yn Lloegr nag sydd yng Nghymru,” meddai’r Charles Ashburner, 47 oed.

Mae llwyddiant y tîm cartref neithiwr yn Toulouse, a gurodd Rwsia o 3 i 0, gan sicrhau lle ar frig grŵp B, wedi bod yn newyddion gwych i’r gwneuthurwr baneri, sy’n gobeithio gweld ei werthiant yn cynyddu eto.

Fe wnaeth Lloegr gael lle yn y rowndiau cynderfynol hefyd, ond dim ond o drwch blewyn, ar ôl perfformiad siomedig neithiwr yn y gêm gyfartal 0-0, yn erbyn Slofacia.

Galw wedi bod yn “anferth”

“Mae’r galw am faneri Cymru wedi bod yn anferth. Cawsom lawer o archebion gan gefnogwyr yn mynd i Ffrainc cyn y bencampwriaeth, oedd am gael enw eu tref neu eu pentref ar y faner,” meddai Charles Ashburner.

“Ac mae llawer o ddiddordeb wedi bod wrth i’r gemau barhau hefyd.

“Fel cefnogwr brwd o Gymru, bydden i wedi bod yn siomedig iawn os byddwn ni wedi gadael (y bencampwriaeth). Ac fel dyn busnes, ni fyddai wedi bod yn dda pe bai Lloegr wedi mynd hefyd.

“Felly dwi’n falch bod y ddau dîm wedi sicrhau lle yn yr 16 olaf.”