Twneli Brynglas (Llun: Gwefan Llywodraeth Cymru)
Fe fydd twneli Brynglas ar draffordd yr M4 yn cau dros nos o heddiw ymlaen wrth i waith cynnal a chadw ddechrau arni.

Fe fydd y ffordd rhwng cyffyrdd 25A a 26 ynghau rhwng 8 y nos a 6 y bore am bum noson yr wythnos – ac mae disgwyl i’r twneli ailagor yn llawn ym mis Chwefror 2018.

Mae’r gwaith yn cynnwys adnewyddu systemau peirianyddol a thrydanol y twneli, ac fe fydd traffig yn cael eu dargyfeirio ar ffordd ddeheuol yr A48 yng Nghasnewydd.

Yn ôl Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi a Seilwaith: “Mae’r M4 yn bwysig iawn i economi Cymru ac mae’r gwaith o gynnal a chadw Twneli Brynglas yn rhan o’n hymrwymiad parhaus i wella’r draffordd.”

Er hyn, mae’n cydnabod na fydd gwelliannau o’r fath yn “datrys y problemau ehangach, mwy hirdymor” tagfeydd traffig yr M4 o amgylch Casnewydd.

“Hoffwn nodi’n glir bod y problemau ehangach, mwy hirdymor hyn yn parhau i fod yn flaenoriaeth uchel i ni ac rwy’n gobeithio y byddwn yn gallu gwneud cyhoeddiad yn eu cylch yn fuan iawn,” ychwanegodd.