Mae dyn 42 oed o’r gogledd wedi marw yng Ngheredigion ar ôl i’w gar gwympo o glogwyn.

Cafodd Heddlu Dyfed-Powys eu galw i ardal Mwnt am 7.50 nos Wener ar ôl i gar adael cae cyn mynd dros y dibyn.

Bu farw gyrrwr y car yn y fan a’r lle.

Mae ei deulu wedi cael gwybod, ond dydy e ddim wedi cael ei enwi.