Mae unigolyn wedi’i dynnu o’r môr, wedi i gar blymio dros glogwyn yn ardal Mwnt ger Aberteifi.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw nos Wener, ac fe fu hofrennydd achub yn chwilio’r ardal tua 8yh nos Wener.

Mae Gwylwyr y Glannau wedi cadarnhau fod unigolyn wedi’i achub o’r tonnau, ac wedi’i gludo i ysbyty yn dilyn yr ymgyrch awyr.