Mae gwraig feichiog wedi colli ei babi yn dilyn damwain car ar yr A5 ym Mhentrefoelas echdoe. Dyma’r ail ddamwain angheuol o fewn deuddydd ar y briffordd.

Fe gafodd yr heddlu eu galw fore Iau i safle gwrthdrawiad rhwng cerbydau Volkswagen Golf a Citroen Xsara.

Mae Heddlu Gogledd Cymru bellach wedi cadarnhau fod gyrwraig feichiog y car cynta’ wedi’i chludo i Ysbyty Glan Clwyd mewn ambiwlans, ond er i feddygon yno geisio geni’r babi trwy lawdriniaeth Gesaraidd, nid oedd yn bosib ei achub.

Fe gafodd plentyn 15 mis oed, a oedd hefyd yn teithio yn y Golf, ei gludo i’r ysbyty yn diodde’ o fân anafiadau.

Mae’r heddlu’n dal i ymchwilio i achos y ddamwain, ac yn apelio ar i unrhyw dystion gysylltu â nhw.