Mike Peters
Bydd y canwr adnabyddus Mike Peters yn chwarae gig ar gopa’r Wyddfa yfory, a hynny er mwyn codi arian i helpu cleifion canser.

Fe fydd y perfformiad yn rhan o ŵyl Snowdon Rocks sydd wedi ei threfnu gan cyn-ganwr The Alarm.

Y nod yw codi arian at elusen canser Awyr Las er mwyn gwella gwasanaethau trin canser yn y gogledd.

Mae Mike Peters wedi bod yn derbyn triniaeth canser ers dros 20 mlynedd, ac mae’r Ŵyl yn gyfle i roi rhywbeth yn ôl i ddiolch am y gofal a’r driniaeth dros y blynyddoedd, meddai.

“Mae Snowdon Rocks yn ymwneud â rhoi rhywbeth yn ôl i’r doctoriaid a nyrsus sydd wedi fy nghadw yn fyw ac wedi gadael i mi fod yn dad, i weld fy nau fab – Evan a Dylan yn tyfu, a pharhau i chwarae cerddoriaeth, a dal i allu byw yng ngogledd Cymru.

“Fe fyddai Canser wedi gallu cymryd y cyfan oddi wrthyf, ond dw i wedi derbyn cefnogaeth anhygoel gan Wasanaeth Iechyd y Gogledd bob cam o’r ffordd. Mae’r gefnogaeth a’r caredigrwydd gan y tîm meddygol wedi fy syfrdanu ymhob ffordd.”

Gŵyl rad ac am ddim

Mae Snowdon Rocks yn rhad ac am ddim ac yn cael ei gynnal ar safleoedd yn Nhafarn yr Heights, Caffi Pen Y Ceunant a’r Mynydd Gwefru yn Llanberis. Ymhlith yr uchafbwyntiau yn yr Heights mae’r band talentog o Flaenau Ffestiniog, Jambyls.