Meri Huws, Comsiynydd y Gymraeg Llun: Swyddfa Comsiynydd y Gymraeg
Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi croesawu adroddiad ar ddarlledu yng Nghymru gan grŵp o Aelodau Seneddol, sy’n nodi pwysigrwydd darlledu i’r iaith Gymraeg.

Dywedodd Meri Huws, fod yr adroddiad yn “ategu’r hyn” y bu’n galw amdano dros S4C, “sef yr angen am feddylfryd newydd ynghylch cyllido a’r angen am fuddsoddi pellach nawr a thros gyfnod o amser.”

Roedd yr adroddiad gan Bwyllgor Materion Cymreig San Steffan yn codi’r angen am adolygiad annibynnol “brys” i ddyfodol S4C.

Yn ôl y pwyllgor, dylai’r adolygiad hefyd ystyried a yw trefniadau ariannu S4C gyda’r BBC yn “addas at eu diben”, gyda’r pŵer i argymell cynyddu cyllid y sianel os bydd angen.

Fe groesawodd Huw Jones, Cadeirydd Awdurdod S4C, yr adroddiad, gan ddweud ei fod yn “cydnabod pwysigrwydd a gwerth S4C i’r iaith Gymraeg, i ddiwylliant Cymru ac i’r economi creadigol.”

“Pwysau aruthrol”

Roedd Meri Huws yn un o’r 32 person a roddodd dystiolaeth i’r pwyllgor yn ystod ei ymchwiliad, a dywedodd heddiw fod y “toriadau mae S4C wedi eu hwynebu dros y blynyddoedd diwethaf wedi rhoi pwysau aruthrol ar yr unig sianel deledu Gymraeg.”

“Mae’n anochel y byddai toriadau pellach yn cael effaith negyddol ar ei gallu i greu cynnwys sy’n cwrdd ag anghenion a disgwyliadau’r gwylwyr,” meddai Meri Huws, sy’n cyd-fynd â datganiad y pwyllgor.

“Mae darlledu cyfrwng Cymraeg yn rhan o wead bywyd yng Nghymru, ac yn rhan annatod o’n hunaniaeth fel cenedl.

“Rwy’n croesawu bod adroddiad y pwyllgor yn cydnabod gwerth economaidd, ieithyddol a diwylliannol y sianel, a bod pwyslais penodol ar bwysigrwydd darpariaeth y sianel i blant.

“Calonogol hefyd yw gweld y pwyllgor yn galw ar Lywodraeth y DU i gydnabod S4C fel cadarnle’r Gymraeg ac y dylid ystyried y gwerth hwnnw mewn unrhyw benderfyniad cyllido.”

Llywodraeth Prydain yn “ymrwymedig” i’r iaith

Dydy Llywodraeth Prydain heb ymateb yn benodol i alwadau’r adroddiad dros S4C, ond fe wnaeth llefarydd ddweud wrth golwg360, ei bod yn “ymrwymedig i’r iaith Gymraeg a S4C.”