Llun: S4C
Mae adroddiad am y sector darlledu yng Nghymru wedi galw am gynnal adolygiad annibynnol i ddyfodol S4C ar frys.

Dylai’r adolygiad hefyd ystyried a yw trefniadau ariannu S4C gyda’r BBC yn “addas at eu diben”, gyda’r pŵer i argymell cynyddu cyllid y sianel os bydd angen, yn ôl casgliad y Pwyllgor Materion Cymreig.

Dydy Llywodraeth Prydain heb ymateb i’w galwadau eto ond dywedodd llefarydd ei bod yn “ymrwymedig i ddarlledu yn y Gymraeg a dyfodol S4C.”

Mae’r Llywodraeth wedi addo cynnal adolygiad i’r sianel genedlaethol, ond ni fydd hynny’n digwydd tan 2017.

Fe groesawodd Huw Jones, Cadeirydd Awdurdod S4C, yr adroddiad, gan ddweud ei fod yn “cydnabod pwysigrwydd a gwerth S4C i’r iaith Gymraeg, i ddiwylliant Cymru ac i’r economi creadigol.”

“Mae’n tanlinellu pwysigrwydd cynnal annibyniaeth S4C a sicrhau ariannu digonol i’r sianel i ganiatáu parhau i ddarparu gwasanaeth o safon uchel,” meddai.

Toriadau wedi ‘effeithio’r cynnwys’

Mae ymchwiliad y Pwyllgor Materion Cymreig wedi codi pryderon dros doriadau i S4C, ac yn dweud eu bod eisoes wedi “effeithio ar gynnwys y sianel.”

Yn ei adroddiad, mae’r pwyllgor yn dweud y gall doriadau pellach gael “effaith ddifrifol” ar ansawdd y sianel genedlaethol.

Dywed y pwyllgor ei fod yn croesawu addewid Llywodraeth Prydain i gynnal adolygiad o S4C ond “nad yw cyfnod o ansicrwydd ariannol yn iach nac yn addas i unrhyw ddarlledwr.”

“Mae’n anffodus, mae dyma’r achos ynghylch S4C, ac rydym yn argymell bod y sianel yn cael adolygiad annibynnol fel mater o frys,” meddai’r adroddiad.

Roedd hefyd yn galw am adolygiadau “rheolaidd” ar y sianel yn y dyfodol i “osgoi’r perygl o ansicrwydd ariannol pellach a sicrhau ei bod (S4C) yn cyflawni ei ddyletswydd fel gwasanaeth cyhoeddus.”

 

Ystyriaeth “haeddiannol” yn “hanfodol”

“Credwn fod hwn yn gyfle perffaith i roi ystyriaeth haeddiannol i ofynion unigryw darlledwyr yng Nghymru,” meddai’r pwyllgor.

“Mae hyn yn hanfodol yn wyneb lluosogrwydd gwan y cyfryngau a thirlun darlledu’r unfed ganrif ar hugain sy’n newid yn gyflym.”

Roedd yr ymchwiliad wedi clywed gan 32 o dystion, gan gynnwys Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws, Rhodri Talfan Davies, cyfarwyddwr BBC  Cymru, a chyfres o ddarlledwyr annibynnol.

Pryderon dros gynnwys Saesneg

Roedd pryderon hefyd ynghylch cynnwys Saesneg BBC Cymru, gyda’r pwyllgor yn honni bod cynnwys y gorfforaeth yng Nghymru, sydd ddim yn newyddion, wedi “erydu.”

Dywedodd ei fod yn “croesawu cyhoeddiad BBC Cymru i greu mwy o raglenni Saesneg” ond bod angen mwy o fanylion ar hyn.

Mae’r grŵp yn dweud hefyd bod “lluosogrwydd” y cyfryngau yng Nghymru wedi “gwanhau’n sylweddol,” gan alw am “lais i Gymru” ar benderfyniadau sy’n ymwneud â’i sector darlledu.

Un o argymhellion eraill y pwyllgor yw creu “Trwydded Gwasanaeth Cenedlaethol” i Gymru, i ddod yn lle’r strwythur trwydded gwasanaeth presennol.

Doedd dim ymateb gan Lywodraeth Prydain i alwadau’r pwyllgor am S4C, ond fe wnaeth llefarydd ymateb i rai o’i sylwadau ar BBC Cymru.

“Mae’r Llywodraeth wedi cyfeirio at y rhan fwyaf o bryderon y Pwyllgor yn ei Bapur Gwyn diweddar ar y BBC,” meddai llefarydd ar ran yr adran ddiwylliant, cyfryngau a chwaraeon Llywodraeth Prydain.

“Rydym wedi bod yn glir mai cyfrifoldeb y BBC yw mynd i’r afael â phroblemau comisiynu a chynnwys.”

‘Datganoli yw’r ateb’

Yn ôl ymgyrchwyr iaith, mae angen datganoli darlledu er mwyn sicrhau ffyniant y Gymraeg yn y cyfryngau.

Dywedodd Curon Wyn Davies, cadeirydd grŵp digidol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:

“Rydyn ni’n falch bod yr adroddiad yn tynnu sylw at ansicrwydd ariannol S4C, ac yn derbyn nifer o’n dadleuon ni.

“Gwnaed addewid clir ym maniffesto’r Ceidwadwyr i beidio â thorri ei chyllideb yn ystod tymor y Llywodraeth hon, felly nawr yw’r amser i drafod sut i fuddsoddi’n bellach yn ein hunig sianel Gymraeg.

Ychwanegodd: “..yn y pen draw, mae angen datganoli darlledu i’r Cynulliad Cenedlaethol ynghyd â fformiwla ariannol statudol i S4C er mwyn sicrhau cyfundrefn darlledu sy’n llesol i’r iaith a’n holl gymunedau.”

‘Heriau ychwanegol’

 

Mae TAC, y corff masnach ar gyfer y sector cynhyrchu teledu annibynnol yng Nghymru, wedi croesawu’r adroddiad hefyd.

Dywedodd Cadeirydd TAC, Iestyn Garlick: “Mae gan y sector cynhyrchu annibynnol yng Nghymru y gallu i gyflwyno straeon, talent, gogwydd a syniadau i gynulleidfaoedd yn llawer mwy rheolaidd.

“Mae’r adroddiad yn cydnabod er mwyn gwneud hynny, mae angen i’r BBC gynyddu ei ymrwymiad ar gyfer comisiynu yn y rhanbarthau, ac i wneud yn siŵr eu bod mewn cysylltiad llawn â chwmnïau annibynnol ledled Cymru.

“Mae TAC hefyd yn croesawu cydnabyddiaeth y Pwyllgor o’r heriau ychwanegol mae S4C bellach yn wynebu oherwydd y nifer gynyddol o ffyrdd mae cynulleidfaoedd yn eu defnyddio i gael mynediad at gynnwys, a bod angen sefydlu dulliau sydd ddim yn caniatáu gostyngiadau parhaol yn ei hincwm.

“Byddem wedi croesawu archwiliad manylach o ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus eraill fel ITV a Channel 5, yn nhermau yr hyn y gallent ei wneud i adlewyrchu holl genhedloedd y DU – ond ar y cyfan mae’r adroddiad hwn yn gyfraniad i’w groesawu’n fawr fel rhan o’r drafodaeth ar y ffordd orau i bortreadu ac adlewyrchu Cymru, ac rydym yn gobeithio y bydd y Llywodraeth yn gwrando ar ei argymhellion.”