Mae dyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ar ffordd yr A5 ym Mhentrefoelas bore ma.

Cafodd Heddlu’r Gogledd eu galw i’r gwrthdrawiad rhwng tri cherbyd am 8.41 bore dydd Mercher, 15 Mehefin.

Bu farw gyrrwr cerbyd amaethyddol yn y fan a’r lle ar ôl bod mewn gwrthdrawiad a  cheir Rover 25 a Ford Focus.

Mae dau o bobl eraill wedi cael eu cludo i Ysbyty Gwynedd ym Mangor.

Mae’r A5 ynghau ar hyn o bryd ac mae’r traffig yn cael ei ddargyfeirio.

Mae’r heddlu’n apelio ar unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad i gysylltu â nhw ar 101 gan nodi’r cyfeirnod U084635.