Mae ymgyrchwyr lleol wedi gwrthod cynlluniau i god peilonau
Mae’r Grid Cenedlaethol wedi cyhoeddi rhagor o fanylion am y gwaith o osod ceblau tanddaearol dan Afon Menai.
Daw hyn yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus a ddaeth i ben ddiwedd 2015, gyda sawl un, gan gynnwys Cyngor Môn yn gwrthwynebu cynnig y Grid Cenedlaethol i osod peilonau ar yr ynys i gysylltu safle Wylfa Newydd.
Mae cynlluniau i osod peilonau ger Llanddaniel Fab, Gaerwen a Bangor wedi cael eu gwyrdroi ac mae’r Grid yn dweud y gallai 5km o’r llinell newydd fynd dan ddaear.
Ond dydy cynigion y Grid i osod peilonau ar weddill y llinell, o’r atomfa ger Cemaes, i lawr at Langefni, heb gael eu hepgor yn gyfan gwbl eto, gyda’r Grid yn dweud y bydd mwy o wybodaeth yn ddiweddarach eleni.
Cydnabod ‘pwysigrwydd’ yr ardal
“Rydym yn gwybod mor bwysig yw’r ardal hon i bobol o ran y tirlun a man i ddenu twristiaid, felly rydym wedi diweddaru pobol cyn gynted ag oedd hynny’n bosib,” meddai Gareth Williams, Uwch Reolwr Prosiect y Grid Cenedlaethol
“Roedd ein hasesiadau ac ymatebion cymunedau ac arbenigwyr yn dangos mor bwysig yw’r ardal. Mae hyn wir wedi helpu i ddylanwadu ar ein gwaith ac rydym wedi edrych yn ofalus ar y ffordd orau o roi’r cysylltiad dan ddaear.”
Bydd y Grid nawr yn ystyried y gwaith technegol o osod ceblau tanddaearol dan Afon Menai, gyda disgwyl rhagor o fanylion ynglŷn â hyn yn ddiweddarach eleni.
“Mae croesi Afon Menai yn her beirianyddol gymhleth – rydym yn hyderus y gallwn ei wneud ond mae’n parhau i gymryd llawer o waith a chynllunio gofalus,” ychwanegodd Gareth Williams.
‘Anwybyddu pob barn’
Roedd ymgyrchwyr lleol wedi galw ar y Grid Cenedlaethol i gefnu ar gynlluniau’r peilonau gan ddweud y byddan nhw’n dinistrio harddwch naturiol yr ynys ac yn cael effaith niweidiol ar ei diwydiant twristiaeth.
Mae’r Grid yn dweud eu bod wedi gwrando ar farn y cyhoedd ond dywedodd Dafydd Idriswyn Roberts, Cadeirydd mudiad Unllais Cymru Môn ar y Post Cyntaf bore ma bod y Grid wedi “anwybyddu pob barn” ac “nad ydyn nhw wedi ymgynghori’n deg.”