Yr Ysgrifennydd Llywodraeth Leol, Mark Drakeford
Mae’r gweithgor sy’n edrych ar y Gymraeg o fewn cynghorau sir wedi cyhoeddi ei adroddiad cyntaf, gan gyflwyno cyfres o argymhellion “heriol” i gynghorau sir.

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu’r adroddiad, sy’n gofyn i gynghorau wneud y Gymraeg yn sgil hanfodol ar gyfer pob swydd ym meysydd addysg a llywodraeth leol.

Mae’r Ysgrifennydd Llywodraeth Leol, Mark Drakeford, wedi ymateb i’r adroddiad yn y Senedd heddiw gan gyhoeddi y bydd “cyfnod o ymgysylltu dros yr haf”, cyn cyhoeddi ymateb yn yr hydref.

Byddai hyn yn cynnwys chwilio am farn Llywodraeth Leol ar yr argymhellion yn ogystal â “rhanddeiliaid eraill.”

“Ni chefnogwyd pob argymhelliad yn unfrydol gan bob aelod o’r Gweithgor ond y mae pob un yn sicr o fod o ddiddordeb uniongyrchol i’r rhai sy’n cyflenwi gwasanaethau Awdurdodau Lleol a’u partneriaid,” meddai.

“Am y rheswm yma, rwy’n cyhoeddi’r Adroddiad heddiw am gyfnod o ymgysylltu dros yr haf.

“Mae cwmpas yr adroddiad yn eang ac mae’n cyffwrdd â meysydd polisi ar draws y Llywodraeth. Rwy’n croesawu’r cyfle i wrando ar farn Llywodraeth Leol a rhanddeiliaid eraill wrth i ni ystyried casgliadau’r adroddiad, a chyn cyhoeddi ymateb Llywodraeth Cymru yn yr hydref.”

Yn yr adroddiad, mae’n ystyried un o addewidion maniffesto Llafur Cymru i “greu miliwn o siaradwyr Cymraeg”, gan nodi mai addysg a chynllunio gweithlu cyrff cyhoeddus yw’r brif ffordd o gyflawni hyn.

Argymhellion

Mae 14 o argymhellion i gyd, sy’n cynnwys, sicrhau bod sgiliau iaith Gymraeg yn hanfodol ar gyfer pob swydd newydd mewn pob Awdurdod Lleol yng Nghymru ac y dylai Llywodraeth Cymru newydd fynegi gweledigaeth uchelgeisiol a chyhoeddi strategaeth newydd ar gyfer y Gymraeg ar frys.

Mae’r adroddiad yn argymell hefyd y dylai’r llywodraeth ddeddfu er mwyn “sicrhau bod lefel o hyfedredd yn y Gymraeg yn hanfodol” ar gyfer y swyddi penodol o fewn awdurdodau lleol.

Mae’r rhain yn cynnwys y pennaeth gwasanaeth cyflogedig a’r prif weithredwr, y cyfarwyddwr corfforaethol, y cyfarwyddwr addysg a’r cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol.

Os nad oes gan y bobol yn y swyddi hyn sgiliau Cymraeg, mae’r adroddiad yn argymell eu bod yn cael hyfforddiant addas gan y cyngor perthnasol.

Croesawu’r adroddiad

Mae’r adroddiad “heriol” hwn wedi cael croeso gan aelodau Cymdeithas yr Iaith, sy’n dweud ei fod yn “cynnig nifer o syniadau gwerthfawr iawn.”

“Un o’r prif negeseuon clywon ni yn ystod ein hymgynghoriad wrth lunio ein dogfen weledigaeth y llynedd (Miliwn o Siaradwyr Cymraeg), oedd bod diffyg difrifol o ran sicrhau bod y gweithlu a’n gweithleoedd yn troi’n fwyfwy naturiol Cymraeg eu hiaith,” meddai Toni Schiavone o’r mudiad.

“Mae’n braf iawn gweld bod y gweithgor yn argymell ffyrdd penodol ymlaen. Yn sicr, dyw darpariaethau Mesur y Gymraeg ddim yn ddigonol er mwyn sicrhau bod rhagor o weithleoedd Cymraeg yn y wlad.

“Mae’n bwysig hefyd bod adnoddau er mwyn i weithwyr ddatblygu eu sgiliau Cymraeg. Dim ond hyder sydd ei angen ar rai gweithwyr, ac mae angen sicrhau bod darpariaeth ym mhob awdurdod er mwyn gwella’r sefyllfa.”

Bydd Cymdeithas yr Iaith yn cynnal trafodaeth yn y Senedd ar 5 Gorffennaf ynglŷn â chryfhau Mesur y Gymraeg.