Y trafferthion yn Marseille dros y penwythnos Llun: PA
Wrth i gefnogwyr Cymru edrych ymlaen at deithio i Lens ar gyfer eu gêm nesaf ym mhencampwriaeth Ewro 2016 yn erbyn Lloegr, mae yna bryder cynyddol am eu diogelwch.

Dros y penwythnos, bu cefnogwyr Lloegr a Rwsia yn gwrthdaro am dridiau yn ninas Marseille, ac mae corff llywodraethol UEFA wedi rhybuddio eu gwahardd o’r bencampwriaeth os yw eu hymddygiad yn parhau.

Mae yna bryder hefyd y bydd yr hanes yn ailadrodd yn ystod y dyddiau nesaf wrth i Rwsia herio Slofacia yn Lille, llai na 40km o Lens lle bydd cefnogwyr Cymru a Lloegr yn ymgasglu.

Lens a Lille

Mewn neges ar Twitter, mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi annog cefnogwyr Cymru sydd heb docynnau i’r gêm ddydd Iau i gadw draw o Lille a Lens.

Yn ogystal, mae’r Prif Weinidog, Carwyn Jones, wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cartref a Llysgennad Ffrainc i’r DU i fynegi pryder am y trais gan alw am gryfhau’r diogelwch.

Ond, mewn llythyr at UEFA, mae cadeirydd y Gymdeithas Bêl-droed (FA) Greg Dyke wedi amddiffyn cefnogwyr Lloegr gan ddweud fod y stiwardiaeth yn ystod y gêm y penwythnos ddiwethaf yn “annerbyniol.”

“Roedd cefnogwyr yn medru mynd â thân gwyllt i mewn a’u tanio, a doedd y gwahaniad rhwng cefnogwyr Lloegr a Rwsia ddim yn ddigon,” meddai.

Mynegodd bryder y gallai rhai o gefnogwyr Lloegr ymgasglu yn Lille cyn teithio i Lens ddydd Iau, “ac er ein bod yn gweithio’n galed i geisio dylanwadu ar eu hymddygiad mae gennym bryderon difrifol ynghylch y trefniadau diogelwch yn y ddinas dros y dyddiau nesaf.”

Cymru ‘pawb mewn hwyliau da’

Mae dau o gefnogwyr Lloegr wedi’u carcharu ers y gwrthdaro’r penwythnos diwethaf gan gael dedfrydau  hyd at dri mis.

Ond, esboniodd gohebydd golwg360, Iolo Cheung, fod yr awyrgylch yn dra gwahanol ymysg cefnogwyr Cymru.

“Mae’r cefnogwyr wedi bod allan bob dydd yn dathlu gyda phawb mewn hwyliau da a neb eisiau creu trwbl.”

Cyfeiriodd at ganmoliaeth i gefnogwyr Cymru yn y wasg Ffrengig, ond wrth anelu am Lens nesaf dywedodd fod yna “dipyn o bryder am ddiogelwch.”

“Ond, gobeithio fod yr awdurdodau’n sortio hynny allan ac yn cyflwyno camau disgyblu lle bo raid.”